pexels-cottonbro-studio-4065876.jpg

Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ALNET) a’r Cod ADY yn mynd yn fyw ar gyfer rhai dysgwyr mewn colegau o fis Medi 2023. Mae hyn yn dilyn pum mlynedd o waith trawsnewid lle mae colegau wedi ceisio gwneud gwelliannau i’w darpariaeth, hyfforddi staff a datblygu partneriaethau ag Awdurdodau Lleol, byrddau iechyd ac eraill.

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn y sector ar hyn o bryd, a’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Cod ADY newydd.

Darllenwch y briff yma

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.