Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae trafodaethau polisi am addysg ôl-16 yng Nghymru a thrwy’r Deyrnas Unedig wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar sut y mae darpariaeth yn cael ei hariannu. Er bod y trafodaethau hyn am ariannu yn bwysig, nod y papur trafod hwn, sydd wedi’i lunio ar gyfer ColegauCymru, yw cyfrannu at drafodaethau polisi ehangach ynghylch a yw’r ddarpariaeth addysgol bresennol yn hybu symudedd cymdeithasol ac yn gwneud digon i alluogi pobl ifanc i fyw bywydau sy’n llawn ‘lles’. Er bod y papur hwn yn canolbwyntio ar addysg ôl-16, er mwyn llywio’r drafodaeth mae hefyd yn edrych ar ddarpariaeth addysgol yn fwy cyffredinol ac ar brofiadau cymaradwy ehangach. Dyma’r cwestiwn canolog y mae’n ceisio’i ystyried: a yw’r ddarpariaeth addysgol bresennol yn hybu cynnydd cymdeithasol a chydnerthedd economaidd-gymdeithasol ar gyfer pobl ifanc o gymunedau o amddifadedd a chefndiroedd personol difreintiedig? Wrth roi sylw i’r cwestiwn hwn, nid yw’r papur yn cynnig atebion penodol – bydd hynny’n destun gwaith pellach. Ond mae’n dechrau datblygu naratif a fframwaith cysyniadol i’w defnyddio i ateb y cwestiwn.
Mae cynnydd addysgol pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig a chymunedau o amddifadedd yn bwnc arbennig o berthnasol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach, gan fod bellach fwy o anghydraddoldeb sgiliau a llai o symudedd cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig nag mewn unrhyw wlad ddatblygedig arall (Janmaat a Green, 2013). At hynny, mae lefelau’r anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol yn y Deyrnas Unedig bellach yn ddigynsail (Oxfam, 2016).
Mae’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol (2019) wedi dweud bod symudedd cymdeithasol wedi aros yn ei unfan dros y pedair blynedd ddiwethaf, a hynny fwy neu lai ym mhob cyfnod ym mywydau pobl, o’r crud i’r gwaith. At hynny, os cewch eich geni’n ddifreintiedig, mae’n rhaid goresgyn rhwystrau niferus i sicrhau nad ydych chi a’ch plant yn gaeth i’r un fagl.
Roedd adroddiad diweddar Augar (2019) yn awgrymu bod tueddiad mwy hirdymor i’w weld, ac nad yw symudedd cymdeithasol ym Mhrydain wedi gwella mewn dros hanner canrif. Dywed nad yw cynnydd mewn cyfoeth a newidiadau yn strwythur cyffredinol y farchnad swyddi wedi cael unrhyw effaith ar gyfleoedd cymharol pobl sy’n cael eu geni mewn grwpiau llai breintiedig.
Nid yw’r problemau hyn yn unigryw i’r Deyrnas Unedig, a dangosodd adroddiad diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) (2018) fod symudedd cymdeithasol wedi aros yn ei unfan neu’n dirywio mewn nifer o wledydd. Serch hynny, mae’r broblem yn arbennig o ddrwg yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl amcangyfrifon yr OECD, ar sail y tueddiadau presennol, byddai angen pum cenhedlaeth ar deulu incwm isel i gyrraedd lefel incwm cyfartalog teuluoedd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y bu gan bobl a anwyd rhwng 1945 a 1975 gyfleoedd llawer gwell o symud yn gymdeithasol na phobl a anwyd ar ôl hynny. Yn gefndir i’r anghydraddoldebau hyn y mae ansicrwydd cynyddol am ddyfodol patrymau gweithio. Mae awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial eisoes yn cael effaith hynod o niweidiol ar ffurfiau traddodiadol ar waith, ac mae disgwyl i hyn waethygu’n sylweddol dros y degawdau nesaf (Buchanan, 2018). At hynny, mae ffurfiau newydd o ‘gyfalafiaeth darfol’ yn tanseilio cysyniadau traddodiadol ynghylch creu cyfoeth, ac mae gwir angen am gydbwyso amgylcheddol o’r newydd er mwyn gofyn cwestiynau sylfaenol am ba ffurfiau ar weithgarwch economaidd y gall ac y dylai llywodraethau cenedlaethol a lleol eu caniatáu a’u cefnogi.
Ac ystyried y pryderon byd-eang hyn, mae’n syndod bod prinder ffynonellau data cynhwysfawr sy’n rhoi gwybodaeth ddibynadwy a diweddar am addysg a symudedd cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Ganolfan Ymchwil ar gyfer Dysgu a Chyfleoedd Bywyd (LLAKES) yn y gorffennol wedi defnyddio data’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Cymwyseddau Oedolion (PIAAC) ar mwyn asesu’r elfennau addysgol a’r elfennau eraill hynny sy’n arwain at anghydraddoldebau sgiliau ymhlith oedolion. Drwy gymharu data am ddosbarthiad sgiliau ymhlith pobl 28-31 oed yn 2013 mewn gwledydd penodol (data gan PIAAC) a data am ddosbarthiad sgiliau ymhlith pobl 15 oed yn 2000-03 (data gan PISA), roedd modd i LLAKES asesu pa mor hir y mae anghydraddoldeb sgiliau o’r fath yn para, yn ogystal ag asesu effaith dysgu ôl-orfodol ac addysg oedolion ar gynyddu neu liniaru anghydraddoldeb o’r fath. Yn anffodus, nid oedd y data hyn ar gael ar gyfer Cymru. At hynny, roedd yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn arfer cyhoeddi ffigurau am faint o bobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol – yn ôl diffiniad dosbarthiadau swyddogol NS-SEC – a aeth i’r brifysgol. Ond rhoddwyd y gorau i gynhyrchu’r data hyn yn 2015 (Worrall, 2017).
Efallai mai’r Arolwg o Lafurlu’r Deyrnas Unedig, a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yw’r ffynhonnell ddata orau, yn enwedig gan fod yr Arolwg yn casglu gwybodaeth am gyrhaeddiad addysgol pobl wrth iddynt ddod yn rhan o’r gweithlu, yn ogystal â gofyn cwestiynau am alwedigaethau rhieni pobl. Mae dadansoddiad Henehan (2019) o’r data hyn, dadansoddiad y cyfeirir ato mewn mannau yn y papur trafod hwn, wedi’i gyfyngu i’r grŵp oedran 22-64 oed wrth sôn am yr oedran gweithio arferol1 . Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth2 i ganfod lefelau cyrhaeddiad, a gellir defnyddio hwn i ganfod lefelau cyrhaeddiad addysgol absoliwt yn ôl ardaloedd awdurdodau lleol ac amryw o ffactorau eraill.
Mae’r papur trafod hwn wedi’i strwythuro o amgylch safbwyntiau gwahanol, neu ‘lensys’, y gellir eu defnyddio i awgrymu atebion maes o law. Mae’r lensys hyn yn cynnwys lens economaidd, lens cymdeithasol, lens cyflawni, lens gofodol a lens gwerthuso i gloi.
Darllennwch yr adroddiad lawn
Allwch chi fynd o fan hyn i fanco?
Addysg ôl-16, cynnydd cymdeithasol a chydnerthedd ecenomaidd-gymdeithasol
Dr Mark Lang
Chwefror 2020