Addysg 5.0: Dyfodol Addysg Bellach yng Nghymru
Mae’n bleser gan ColegauCymru eich croesawu i’n Cynhadledd Flynyddol yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Gydag agenda orlawn, mae’r Gynhadledd yn dod â 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant, o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ynghyd i ddangos gwerth addysg bellach a rhannu syniadau am yr heriau sydd o’n blaenau. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i fyfyrio a rhwydweithio, ac yn hollbwysig edrych i’r dyfodol gyda’n gilydd, wrth inni groesawu’r newidiadau trawsnewidiol sydd o’n blaenau yn y ffordd y caiff addysg ôl-16 ei llywodraethu a’i chyflwyno yng Nghymru. Mae’r Gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ystyried beth sydd ei angen ar Gymru gan golegau yn y dyfodol, a sut y gallwn fynd i’r afael ar y cyd â’r anghenion sgiliau newidiol a gyflwynir gan megadueddiadau byd-eang. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach.