5 Tachwedd 2026, Stadiwm Dinas Caerdydd
Rydym wrth ein bodd yn rhannu cyfleoedd i fod yn rhan o'r digwyddiad pwysig hwn yng nghalendr Addysg Bellach yng Nghymru.
Mae Cynhadledd eleni yn dod ar adeg hollbwysig i addysg bellach yng Nghymru. Yn digwydd ychydig fisoedd ar ôl Etholiad y Senedd, bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar Gyflwyno’r achos dros newid: Blaenoriaethau addysg bellach ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.
Mae'r Gynhadledd unwaith eto'n addo dod â 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant ynghyd, o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ddangos gwerth addysg bellach a rhannu syniadau ar yr heriau sydd o'n blaenau. Bydd cyfle hefyd i wrando ar ddadleuon panel addysgiadol, mynychu gweithdai a rhwydweithio gyda chydweithwyr.
Cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk i drafod y cyfleoedd sydd ar gael.