Mae colegau ledled Cymru wedi cadarnhau eu hymrwymiad i greu amgylcheddau dysgu a gweithio lle mae pawb yn teimlo ymdeimlad gwirioneddol o berthyn, gyda lansiad Siarter Cynefin newydd dan arweiniad ColegauCymru.
Wedi’i llofnodi gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru, mae’r Siarter yn gosod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd dull y sector o ymdrin ag addysg a hyfforddiant.
Wedi’i gwreiddio yn y cysyniad Cymreig o gynefin - ymdeimlad dwfn o berthyn i le, cymuned neu ddiwylliant - mae’r Siarter yn amlinellu gweledigaeth ar y cyd i golegau fod yn fannau o barch lle mae dysgwyr a staff yn teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain yn ddilys ac yn gallu ffynnu.
Mae’r Siarter yn cydnabod bod ymdeimlad o berthyn yn hanfodol i les, diogelwch, hapusrwydd a llwyddiant. Mae hefyd yn dathlu hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw Cymru, gan sicrhau bod y Gymraeg a threftadaeth amrywiol cymunedau lleol yn parhau’n ganolog i ddiwylliannau cynhwysol colegau.
Egwyddor allweddol o fewn y Siarter yw’r gydnabyddiaeth y gall unigolion brofi sawl math o wahaniaethu sy’n gorgyffwrdd. Felly, mae colegau’n ymrwymo i fynd i’r afael â rhwystrau sy’n gysylltiedig â ffactorau megis hil, ffydd, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol ac amgylchiadau cymdeithasol-economaidd, gan roi blaenoriaeth i lesiant a gwrth-hiliaeth ar draws eu sefydliadau.
Mae'r Siarter hefyd yn cadarnhau ymrwymiad parhaus y sector i wrth-hiliaeth, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill ar draws colegau Cymru i herio hiliaeth, cael gwared ar rwystrau strwythurol a sicrhau bod colegau yn lleoedd diogel a chynhwysol i ddysgwyr a staff Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Drwy’r Siarter, mae colegau’n ymrwymo i:
- Rhoi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon arweinyddiaeth - gwreiddio EDI ar draws llywodraethu, strategaeth a phenderfyniadau.
- Hyrwyddo amrywiaeth mewn addysgu a dysgu - sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu cyfoeth Cymru gyfoes a’r byd ehangach.
- Creu diwylliannau lle gall pawb ffynnu - meithrin amgylcheddau cynhwysol sy’n cefnogi llesiant a llwyddiant dysgwyr a staff.
- Gweithio gyda chymunedau fel angorau dinesig - cryfhau cydlyniant cymdeithasol drwy bartneriaeth, gwrando a pharch at ei gilydd.
Yn bwysig, mae’r Siarter hefyd yn ymrwymo’r sector i fesur ei effaith. Bydd colegau’n gosod amcanion clir ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a fydd yn cael eu monitro ar lefel y Bwrdd, gyda chynnydd yn cael ei adrodd yn flynyddol. Defnyddir data i nodi a chau bylchau mewn recriwtio, cadw a chyrhaeddiad, tra bydd lleisiau dysgwyr a staff yn helpu i werthuso a yw gwir ymdeimlad o gynefin yn cael ei brofi o fewn colegau.
Drwy lofnodi Siarter Cynefin, mae ColegauCymru a’n haelodau yn dangos ymrwymiad ar y cyd i adeiladu cymunedau coleg lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi ac yn teimlo’n gysylltiedig.