actionplan.jpeg

Mae ColegauCymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n haelodau, undebau llafur ar y cyd a Llywodraeth Cymru i baratoi a chytuno ar drefniadau i gefnogi dychwelyd staff yn ddiogel i Golegau Addysg Bellach yng Nghymru o 15 Mehefin 2020.

I ddechrau, bydd staff yn dychwelyd i flaenoriaethu gweithgareddau wyneb yn wyneb ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd angen asesiadau trwydded i asesu a rhai dysgwyr yr ystyrir hwy fel bod yn agored i niwed.

Mae’r trefniadau y cytunwyd arnynt wedi’u nodi yn y ddogfen ‘Protocol Gweithredol i gefnogi dychwelyd staff i Golegau Addysg Bellach yng Nghymru’. Mae hyn yn cynnwys set o 45 o brotocolau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau iechyd a diogelwch gweithlu'r colegau.

Mae'r ddogfen yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd gan Bwyllgor Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, a disgwylir adborth yn gynnar yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 8 Mehefin 2020. Bydd y ddogfen yn cael ei ddiweddaru mewn partneriaeth â LlC a’r undebau llafur ar y cyd wrth i'r wythnosau fynd yn eu blaen. Bydd hon yn broses ailadroddol wrth i ni ddechrau ailagor ein colegau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb ac wrth i ni weithio tuag at ffordd newydd o weithredu yng nghyd-destun pandemig Covid19.

Gwybodaeth Bellach

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.