pexels-natasa-dav-2885919.jpg

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar gyflwyno cyfleoedd datblygu tramor i ddysgwyr a staff mewn addysg bellach. Gwneir y cyfleoedd hyn yn bosibl trwy raglenni symudedd a ariennir fel rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Taith, a rhaglen cyfleoedd rhyngwladol Llywodraeth y DU, Cynllun Turing.

“Mae treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli, ar hyfforddiant neu ar leoliadau gwaith dramor yn ehangu gorwelion, yn datblygu sgiliau allweddol, ac yn dod â buddion nid yn unig i’r unigolion sy’n cymryd rhan ond hefyd i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru. Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn falch o weld bod pobl ifanc o bob cefndir yn elwa ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael drwy’r gwahanol raglenni hyn.”

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl allblyg drwy hwyluso cyfranogiad colegau addysg bellach mewn prosiectau symudedd a phartneriaethau tramor. Mae ColegauCymru yn hwyluso cyfranogiad ein haelodau trwy geisiadau ar y cyd ar draws Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi colegau i gyflwyno ceisiadau ariannu eu hunain.

Mae gan ColegauCymru Rhyngwladol rwydwaith cadarn o bartneriaid ledled y byd yr ydym yn cydweithio â nhw i gynnig cyfleoedd cyfoethogi a gwella rhyngwladol i ddysgwyr a staff. Rydym hefyd yn annog ymweliadau cyfatebol fel bod ein partneriaid yn gallu dod i Gymru i astudio, hyfforddi ac i rannu arfer da. 

Cysylltwch

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Tudalennau Cysylltiedig

Taith Cynllun Turing Erasmus+ Erasmobility

Yn 2024/2025, fe wnaeth cyllid Taith a Turing ColegauCymru alluogi dysgwyr a staff Addysg Bellach i elwa o gyfleoedd i hyfforddi, gweithio a gwirfoddoli mewn 26 o wledydd ledled y byd gan gynnwys Japan, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Tanzania, Twrci, Sbaen a Ffrainc. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.