Mae ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi cyhoeddi data newydd heddiw sy’n amlygu canlyniadau economaidd a chymdeithasol pellgyrhaeddol toriadau cyllid prentisiaethau yng Nghymru.
Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr) yn tynnu sylw at gost economaidd a chymdeithasol sylweddol toriadau cyllid prentisiaethau, sy’n effeithio’n arbennig ar y cymunedau mwyaf difreintiedig, a sectorau hanfodol fel gofal iechyd ac adeiladu. Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio’r angen am fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau i gefnogi twf economaidd a datblygu’r gweithlu yng Nghymru.
O ganlyniad i doriadau cyllidebol y llynedd, mae’r adroddiad yn amlygu:
-
Mae bron i 6,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yng Nghymru eleni
-
Effaith ‘tymor byr’ o £50.3 miliwn ar yr economi
-
Y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac adeiladu sy'n cael eu heffeithio fwyaf
-
Mae toriadau ariannol yn effeithio'n anghymesur ar y mwyaf difreintiedig o fewn poblogaeth Cymru
Gwybodaeth Bellach
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk