Meeting Table.jpg

Mae’r sector addysg bellach yn rhan hanfodol o’r tirlun ôl-16. Mae’n cynnig cyfleoedd dysgu a llwybrau i bobl o bob oedran mewn addysg alwedigaethol a hefyd addysg gyffredinol yn ogystal â chyflogadwyedd, dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu seiliedig ar waith. Mae colegau eu hunain yn sefydliadau mawr a chymhleth sy’n gwasanaethu ac yn gweithio gyda chymunedau amrywiol a rhanddeiliaid cymhleth. 

Bu proses o drawsnewid yn y sector dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae bellach lai o sefydliadau yn y sector ond mae’r rheiny yn rhai mwy. Mewn rhai achosion, mae sefydliadau wedi ychwanegu darparwyr dysgu seiliedig ar waith tra bod eraill yn rhan o deulu o sefydliadau dan ymbarél prifysgol. Mae sefydliadau yn aml-gampws ac yn gwasanaethu cymunedau ar draws ardal ddaearyddol eang. 

Ym mhob achos, mae sefydliadau addysg bellach yn sefydliadau mawr a chymhleth sydd angen uwch arweinwyr sydd ag ystod o sgiliau a phrofiadau. Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth i lwyddiant y sefydliad ac felly mae’n dilyn fod yn rhaid i’r sector fod â ffocws ar fuddsoddi yn eu harweinwyr, bod â chynlluniau clir ar waith i gefnogi cynnydd, cadw a chynllunio olyniaeth, a bod â thimau arweinyddiaeth amrywiol gydag ystod o brofiadau. 

Dylid gweld y canfyddiadau a’r argymhellion i gyd yng nghyd-destun nid yn un unig y tirlun ôl-16 cyfredol ond hefyd fel bod yn berthnasol ar gyfer y cyfnod pan fydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil wedi ei sefydlu ac yn gyfrifol am gynllunio a throsolwg o’r sector ôl-orfodol. 

I gefnogi’r gwaith hwn comisiynwyd y Sefydliad Dysgu a Gwaith gan ColegauCymru i gynnal ymchwil i helpu datblygu dealltwriaeth o: 

  • Recriwtio, cadw, rheoli talent a chynllunio olyniaeth ar draws y sector. 
  • Natur y cynnig dysgu proffesiynol cyfredol i arweinwyr a’r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. 
  • Y rhwystrau allweddol (gwir a thybiedig) i fynd i swyddi arweinyddiaeth, symud ymlaen i uwch arweinyddiaeth, ac aros mewn swyddi arweinyddiaeth. 
  • Profiad dysgwyr o’u llesiant eu hunain a llesiant pobl eraill. Byddai hyn o reidrwydd yn cyffwrdd ar effaith y pandemig ond ni fyddai wedi ei gyfyngu i’r cyfnod hwn yn unig. 

Hoffem ddiolch i’r unigolion niferus o bob rhan o’r sector a mannau eraill a roddodd o’u hamser i ymateb i’r arolwg, i gael eu cyfweld, neu i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws. Mae pob un ohonynt yn hynod o brysur yn arwain eu sefydliadau a’u sefydliadau eu hunain, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu hamser yn helpu i lywio’r ymchwil y mae’r adroddiad hwn yn seiliedig arno. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.