Ymateb Ymghyhoriad
Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru
Ymateb erbyn: 31 Hydref 2025
Mae Medr yn cynnal ymgynghoriad ar Raglen Brentisiaethau Newydd i Gymru, ac mae ColegauCymru wedi cyflwyno tystiolaeth i’r ymgynghoriad hwnnw. Mae gan Medr gyfle unigryw unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladu ar y momentwm sydd eisoes wedi’i greu drwy raglen brentisiaethau Cymru. Er mwyn diwallu anghenion unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru yn y dyfodol, mae’n bwysig bod y rhaglen newydd yn cynnwys llai o fframweithiau prentisiaeth, ond rhai sy’n ehangach ac yn fwy hyblyg, ynghyd â newid i’r mecanwaith cyllido presennol sy’n gallu atal dulliau cyflwyno arloesol ac ystwyth.
Mae ColegauCymru yn parhau i alw am Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) sydd wedi’i halinio â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru. Mae’r strategaeth hon yn hanfodol i yrru twf economaidd ac i ddatblygu’r sgiliau gwyrdd sydd eu hangen heddiw ac yn y dyfodol. Byddai rhaglen brentisiaethau gref yn elfen allweddol o’r strategaeth hon, ynghyd â sicrhau llwybrau dysgu cydlynol ac adnabyddus i bobl 14 - 19 oed, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd diduedd, cefnogaeth effeithiol i gyflogwyr, a darpariaeth sy’n cael ei chynllunio a’i chyflwyno ar sail gwybodaeth gadarn am y farchnad lafur.
Byddai’r newidiadau hyn, gyda’i gilydd ac ochr yn ochr â chyllid cynaliadwy a chynyddol ar gyfer prentisiaethau, yn atgyfnerthu’r farn sydd gan Medr mai prentisiaethau yw un o’r prif ddulliau o yrru cynhyrchiant ac o helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol. Rhaid i ni ysgogi’r genhedlaeth nesaf o swyddi newydd yn y sector preifat ac helpu i ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae prentisiaethau’n hanfodol i adeiladu gweithlu medrus i gefnogi economi Cymru. Maent yn cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau i unigolion i ennill, dysgu a ffynnu, gan helpu busnesau i dyfu a llwyddo.
Medr: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad
Twf, Cyfle a Thegwch - Maniffesto 2026
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk