Mae ColegauCymru yn croesawu’n gynnes gyhoeddiad heddiw gan Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, o £3.2 miliwn o gyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn colegau addysg bellach.
Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gam cadarnhaol ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein galwadau am gymorth pellach. Mae colegau wedi ymrwymo i ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel i bob dysgwr, a bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth pwysig i ddysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol i gyflawni eu potensial.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd newid ystyrlon yn cymryd amser ac ymdrech barhaus. Bydd angen amser ar golegau i recriwtio’r staff cywir a rhoi’r systemau a’r adnoddau angenrheidiol ar waith i ddiwallu lefelau cynyddol o angen.
Er mwyn sicrhau effaith barhaol, mae’n hanfodol bod y cyhoeddiad hwn yn cael ei ddilyn gan gyllid parhaus, cynaliadwy ar gyfer ADY yn y sector Addysg Bellach. Mae cynnal lefelau staffio mewn colegau yn hanfodol i reoli’r llwyth gwaith cynyddol o ganlyniad i ddyletswyddau statudol o dan ALNET, gyda rhagamcanion gan arweinwyr ADY colegau yn dangos costau ychwanegol sy’n fwy na £3 miliwn ar gyfer 2025/26. Heb fuddsoddiad cynaliadwy, mae ansawdd a chynaliadwyedd darpariaeth gynhwysol mewn perygl.
Mae'r alwad hon am gyllid cynaliadwy a digonol i gefnogi dysgwyr ag ADY yn flaenoriaeth allweddol yn ein Maniffesto a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Etholiad Senedd 2026, sy'n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer twf, cyfle a thegwch ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet
Datganiad Llafar: Diweddariad ar y Diwygiadau ADY
14 Hydref 2025
Maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiad Senedd 2026
Twf, Cyfle a Thegwch
Hydref 2025
Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid ADY ar gyfer Addysg Bellach
Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk