Mae ColegauCymru wedi amlinellu ein blaenoriaethau i Bwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd y Senedd, gan alw am ffocws cryf ar sgiliau, prentisiaethau a llwybrau i gyflogaeth wrth i Gymru geisio cynyddu cynhyrchiant, mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a sicrhau manteision trawsnewidiadau economaidd mawr, gan gynnwys mewn ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu uwch, technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial (AI).
Mae tair blaenoriaeth gydgysylltiedig a fydd yn hanfodol i ffyniant hirdymor Cymru:
- mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc;
- cryfhau rôl sgiliau wrth gefnogi cynhyrchiant ac arloesedd; a
- sicrhau bod Cymru yn manteisio ar swyddi a gwerth economaidd o'r trawsnewid i economi sero net ac economi sy'n cael ei gyrru gan dechnoleg.
Ar ddiwedd 2025, roedd 56,800 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), gan roi'r gyfradd NEET uchaf o blith holl wledydd y DU i Gymru. Mae lleihau'r ffigur hwn yn hanfodol nid yn unig i wella cyfleoedd bywyd unigolion, ond hefyd i gefnogi twf economaidd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.
Mae cryfhau llwybrau i waith drwy brentisiaethau, addysg a hyfforddiant gwaledigaethol, cyngor gyrfaoedd o safon uchel a chymorth wedi'i dargedu i helpu pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i gyfranogi yn allweddol. Mae ColegauCymru yn annog y Pwyllgor i archwilio a oes gan Gymru system sgiliau ymatebol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gallu diwallu anghenion economaidd presennol a rhai'r dyfydol. Dylid rhoi sylw penodol i sgiliau technegol a galwedigaethol lefel uwch, datblygu'r gweithlu a'r rôl y mae colegau yn ei shwarae wrth gefnogi cyflogwyr ledled cymru. Mae buddsoddiad parhaus mewn sgiliau yn hanfodol i wella cynhyrchiant, annod arloesedd a sicrhau bod gan fusnesau fynediad at y gweithlu sydd ei angen arnynt i dyfu a chystadlu.
Rhaid i brentisiaethau barhau i fod yn ganolog i agenda datblygu economaidd Cymru. Mae mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, gwella cynhyrchiant a sicrhau manteision trawsnewid economaidd yn faterion sy'n gysylltiedig â'i gilydd. Bydd rhaglen brentisiaethau gref, system sgiliau ymatebol a sector addysg bellach wedi'i ariannu'n briodol yn hanfodol i sicrhau cynnydd ym mhob un o'r tri maes hyn. Mae ColegauCymru yn barod i gefnogi Llywodraeth Cymru a Phwyllgorau'r Senedd wrth ddatblygu ein system sgiliau ymhellach er mwyn cefnogi twf economaidd.
Rhagor o wybodaeth
Senedd Cymru
Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd – Blaenoriaethau
Maniffesto ColegauCymru ar gyfer Etholiad y Senedd 2026
Twf, Cyfle a Thegwch - Maniffesto 2026
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyed
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk