Mae colegau ledled Cymru yn dathlu pŵer trawsnewidiol Addysg Bellach yn ystod Wythnos Colegau 2026, sy’n cael ei chynnal rhwng 2–6 Mawrth, gyda thema eleni yn tynnu sylw at bwysigrwydd “Sgiliau i Bawb.”

Mae’r ymgyrch flynyddol yn rhoi’r sbotolau ar y rôl hanfodol y mae colegau’n ei chwarae wrth arfogi pobl o bob oed gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo - o bobl ifanc sy’n cychwyn ar eu taith, i oedolion sy’n ailhyfforddi, prentisiaid sy’n ennill profiad ymarferol, a dysgwyr lefel uwch sy’n symud ymlaen i yrfaoedd arbenigol.
Ledled Cymru, mae colegau yn ganolog i gefnogi dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr - gan helpu i ysgogi twf economaidd, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i ddysgu a symud ymlaen drwy gydol eu bywydau.
Wythnos yn dathlu sgiliau a chyfle
Drwy gydol yr wythnos, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar grŵp gwahanol o ddysgwyr bob dydd er mwyn dangos ehangder ac effaith addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
- Dydd Llun - Addysg Oedolion yn Talu ar ei Ganfed: dathlu oedolion sy’n dychwelyd i addysg, yn ailhyfforddi ar gyfer gyrfaoedd newydd, neu’n ennill sgiliau newydd yn ddiweddarach mewn bywyd.
- Dydd Mawrth - Pobl Ifanc: cydnabod dysgwyr ifanc sy’n datblygu sgiliau galwedigaethol ac academaidd wrth baratoi ar gyfer eu dyfodol.
- Dydd Mercher - Prentisiaethau: tynnu sylw at brentisiaid a’r cyflogwyr sy’n cefnogi datblygu sgiliau yn y gweithle.
- Dydd Iau - Addysg Uwch mewn Colegau: arddangos dysgwyr sy’n astudio cymwysterau technegol ac academaidd ar Lefel 4 ac uwch.
- Dydd Gwener - Cymunedau’r Colegau: dathlu’r staff, y partneriaethau a’r cymunedau sy’n gwneud colegau’n sefydliadau lleol mor bwerus.
Mae’r themâu hyn yn adlewyrchu amrywiaeth y cyfleoedd dysgu sydd ar gael ar draws sector addysg bellach Cymru a’r rôl hanfodol y mae colegau’n ei chwarae wrth gefnogi unigolion ar bob cam o fywyd.
Cefnogi dyfodol Cymru
Wrth i Gymru edrych ymlaen at dymor nesaf y Senedd, nid yw cyfraniad colegau i ffyniant a lles y genedl erioed wedi bod yn bwysicach.
Drwy ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd, Twf, Cyfle a Thegwch, mae ColegauCymru wedi amlinellu gweledigaeth ar gyfer sut y gall addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith helpu i dyfu’r economi, gwella cyfranogiad mewn addysg ôl-16, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy gyfleoedd dysgu gydol oes.
Mae’r maniffesto yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae colegau’n ei chwarae fel sefydliadau angor mewn cymunedau ledled Cymru, gan gefnogi pobl i ennill sgiliau newydd, symud ymlaen i gyflogaeth, a chael mynediad at gyfleoedd sy’n trawsnewid bywydau - wrth gefnogi economi Gymreig gref a llewyrchus.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae Wythnos Colegau yn gyfle i ddathlu’r effaith anhygoel y mae colegau’n ei chael ar bobl, cymunedau ac economi Cymru. Ledled Cymru, mae colegau’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a chyflogwyr i ffynnu - boed hynny’n helpu person ifanc i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith, yn cefnogi prentis i adeiladu gyrfa, neu’n galluogi oedolion i ailhyfforddi a symud ymlaen.
Wrth i ni nesáu at etholiad y Senedd yn 2026, mae ein maniffesto Twf, Cyfle a Thegwch yn nodi sut y gall colegau helpu i adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus. Gyda’r gefnogaeth a’r buddsoddiad cywir, bydd colegau’n parhau i ddarparu sgiliau i bawb ac yn datgloi cyfleoedd i ddysgwyr ar bob cam o fywyd.”
Drwy gydol yr wythnos, bydd colegau ledled Cymru yn rhannu straeon dysgwyr, yn dathlu partneriaethau â chyflogwyr a chymunedau, ac yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol addysg bellach ar unigolion a’r economi.

Gwybodaeth Bellach
Maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiad y Senedd 2026
I ddysgu mwy am flaenoriaethau’r sector cyn etholiad nesaf y Senedd, darllenwch faniffesto ColegauCymru - Cyfle, Twf a Thegwch.
Am ragor o wybodaeth am #WythnosColegau2026, ewch i dudalen yr ymgyrch gan Association of Colleges.