Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol

voting.jfif

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Dyddiad Cyflwyno: 10 Ionawr 2023

Tynnodd ColegauCymru sylw at yr angen i ehangu’r egwyddor o gyfranogiad i gynnwys cyfrifoldeb gweinyddwyr etholiadol i wella hygyrchedd, ansawdd ac argaeledd gwybodaeth, yn enwedig i bobl ifanc sy’n pleidleisio am y tro cyntaf, am bwysigrwydd cymryd rhan mewn etholiadau ac i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus a moesegol.

Dylid ymestyn y cynnig i ganiatáu i fyfyrwyr y Brifysgol gofrestru i bleidleisio yn ystod eu hwythnos gofrestru, i gynnwys dysgwyr sy'n cofrestru mewn colegau, y Chweched Dosbarth a chyda Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae colegau'n cynnig lleoliad i gefnogi a darparu lle diogel a chyfarwydd i bleidleiswyr iau a'r bobl ifanc hynny sy'n agored i niwed sydd ag anghenion dysgu i ddefnyddio eu pleidlais. Efallai y bydd pleidleiswyr iau hefyd yn teimlo'n fwy cyfforddus yn defnyddio dulliau mwy modern, digidol i ymarfer eu pleidlais ar-lein, ar ffonau clyfar a gliniaduron, a byddem yn annog ymchwiliad pellach i opsiynau ar gyfer system gwbl ar-lein. Mae’n hollbwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn etholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac wrth ystyried datblygu adnoddau, a dylid eu cynhyrchu’n ddwyieithog a sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd i bob dysgwr ledled Cymru.

Fel rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae’n hanfodol bod unrhyw adnoddau ysgol ar gael, yn hygyrch, ac yn briodol i’w defnyddio gan golegau a’u dysgwyr.

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.