Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24

Taking notes and working on laptop.jpg

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor Cyllid
Dyddiad Cyflwyno: 18 Tachwedd 2022

Nododd ColegauCymru y gefnogaeth y mae’r sector addysg bellach wedi’i chael i lywio heriau’r pandemig Covid-19. Fe wnaethom ychwanegu hefyd fod cefnogaeth barhaus a hyblygrwydd cyllid yn hanfodol wrth i'r sector wynebu cynnydd enfawr mewn prisiau ynni a phwysau costau byw i staff a dysgwyr. Fe wnaethom hefyd bwysleisio’r angen i’r gyllideb gydnabod pwysigrwydd addysg bellach i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ynghylch Sero Net, yn ogystal ag adlewyrchu materion yn ymwneud â thargedau Prentisiaethau a chadw staff yn y sector addysg bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.