Erasmus+ Days 2020: Dathlu sut mae rhaglen Erasmus+ yn ehangu gorwelion ac yn codi dyheadau

 
 
Mae ein Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol Siân Holleran yn siarad am fenter #ErasmusDays a fydd yn dathlu rhaglen Erasmus+ gyda digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ledled Ewrop a thu hwnt.

Bydd 15-17 Hydref 2020 yn gyfle i fuddiolwyr y rhaglen arddangos eu prosiectau ac i ledaenu'r gair am yr effaith gadarnhaol y mae cyfranogiad wedi'i chael ar unigolion a sefydliadau.

Ers lansio Erasmus+ yn 2014, mae ColegauCymru wedi sicrhau dros €7m o fuddsoddiad i ddysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid ymgymryd â phrofiadau gwaith 2 i 3 wythnos ledled Ewrop. Defnyddiwyd cyfran o'r cyllid hwn (€20,8970) i alluogi darlithwyr, rheolwyr ac arweinwyr colegau ledled Cymru i gymryd rhan mewn DPP arloesol yn y Ffindir, Gwlad y Basg (Sbaen), Catalwnia, Denmarc a'r Eidal.

Yn ystod rownd 2020 o geisiadau Erasmus+, llwyddwyd i sicrhau cyllid o €2.2m ar gyfer prosiectau a oedd bod i redeg tan 2022. Mae symudedd galwedigaethol dramor yn ehangu gorwelion ac yn codi dyheadau dysgwyr, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig. Cadarnhaodd ymchwil ddiweddar a wnaethom (dros gyfnod o bedair blynedd) fod dysgwyr wedi nodi datblygiad a gwelliant sylweddol mewn dyheadau yn y dyfodol, sgiliau technegol, hyder a goddefgarwch.

Dywedodd dysgwr teithio a thwristiaeth o Grŵp Llandrillo Menai a ymgymerodd â lleoliad gwaith pythefnos yn Bordeaux, Ffrainc,

“Fe wnes i weithio mewn Chateâu Gwin yn tywys y sesiynau blasu, a roddodd hyder i mi. Dysgais sgiliau newydd ac mae wedi fy ngwneud yn berson mwy hyderus. Fyddai'n awyddus i weithio dramor yn y dyfodol. Roeddwn yn nerfus iawn ar y dechrau, ond dysgais y gallwn ei wneud ac fel canlyniad, mae fy hyder wedi cynyddu’n fawr.”

Bydd ColegauCymru’n cynnal cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol (CPG) ar 15 Hydref. Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol cymryd rhan mewn prosiectau Erasmus+ ar ddysgwyr galwedigaethol a staff. Byddwn hefyd yn siarad am sut rydym yn parhau i bwyso ar y DU i barhau i fod yn gwbl ymrwymedig i raglenni Erasmus+ yn y dyfodol. Bydd y cylch saith mlynedd nesaf o gyllid Erasmus+ yn rhedeg rhwng 2021 a 2027. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwyr hwn o drafodaethau Brexit, nid ydym yn sicr y bydd y DU yn parhau ei hymrwymiad i’r rhaglen hwn. Mae hyn yn peri pryder mawr ac yn rhoi gallu dysgwyr y dyfodol i fanteisio ar y cyfleoedd gwych hyn yn y fantol.

 

Gwybodaeth Bellach

Grŵp Trawsbleidiol ColegauCymru: Pwysigrwydd parhau gymryd rhan yn Erasmus+ ar ôl Brexit
15 Hydref 2020
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.