Colegau addysg bellach yn ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl dysgwyr

people running.jpeg

Mae heddiw yn nodi diwrnod cyntaf #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl. Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru wedi ymrwymo i flaenoriaethu iechyd meddwl ein dysgwyr a’n staff a fydd, yn ei dro, yn cefnogi unigolion a chymunedau iachach, a Chymru gryfach, fwy cydnerth. 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a sbarduno newid cadarnhaol i iechyd meddwl pawb. Y thema ar gyfer eleni yw Symud: Symud mwy dros ein hiechyd meddwl. Mae iechyd meddwl da yn hanfodol ar gyfer Cymru fwy gwydn ac iachach ac mae gan ein colegau addysg bellach ran hanfodol i’w chwarae. 

Ein Hymrwymiad 

Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu cymorth iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth ar draws y sector addysg bellach. Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth. 

  • Rhoesom dystiolaeth i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, yn galw am fwy o gydweithio rhwng addyg uwch, addysg bellach ac ysgolion i sicrhau pontio llyfnach; mwy o gyllid tymor hir ar gyfer cymorth iechyd meddwl a hyfforddiant mwy ystyrlon i staff; gwell mynediad at gymorth iechyd meddwl Cymraeg; ac ymagwedd system gyfan at iechyd meddwl a lles ar draws y sector ôl-16 er mwyn sicrhau profiad cyfartal i ddysgwyr ni waeth ble maent yn astudio. 

  • Mae Strategaeth Lles Actif eColegauCymru yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgaredd corfforol i gefnogi iechyd meddwl da dysgwyr ac wrth osod y sylfaen ar gyfer bywydau a chymunedau iach, gan wneud sylfaen gadarn ar gyfer gweithlu cryf. 

  • Mae ein digwyddiadau lles actif a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr Her Awyr Agored a digwyddiadau Aml-chwaraeon, yn sicrhau bod dysgwyr llai actif yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, sydd yn ei dro yn cefnogi gwell iechyd meddwl. 

  • Mae ColegauCymru wedi comisiynu gwahanol ddarnau o ymchwil ar werth lles actif - cysylltu gweithgaredd, lles, a gwell iechyd meddwl ymhlith dysgwyr addysg bellach. 

  • Mae Grŵp Strategol Lles Actif ColegauCymru yn canolbwyntio ar chwaraeon, gweithgaredd corfforol a materion lles yn y sector addysg bellach. Mae’r grŵp hwn yn cyfarfod i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn polisi ac arfer gyda’r nod o wella mynediad dysgwyr at weithgarwch, datblygu a rhannu arfer dda, a chreu cyfleoedd i golegau ledled Cymru. 

  • Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau addysgu a dysgu iechyd meddwl ymarferol ar gyfer y sector addysg bellach. Mae'r rhain yn cynnwys podlediad ar ddatblygu gwytnwch; offeryn adnabod i ddysgwyr ei ddefnyddio i nodi risgiau, gwytnwch a lles eu hunain; rhaglen Wellbot; cyrsiau hyfforddi ar gyfer staff cymorth; ac adnoddau i alluogi staff a dysgwyr i ddysgu technegau ar gyfer mecanweithiau ymdopi effeithiol, ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol, pendantrwydd, cyd-drafod, gwneud penderfyniadau ac ymlacio. 

Wrth i ni nodi #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl, ymunwch â ni i barhau â'r sgwrs am iechyd meddwl. I ddangos i bawb bod iechyd meddwl yn bwysig. A gadewch i bobl wybod ei bod hi'n iawn i ofyn am gymorth. 

Gwybodaeth Bellach 

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 
13 – 19 Mai 2024 

Adnoddau Hwb 
Adnoddau iechyd meddwl a llesiant ôl-16 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif 
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.