ColegauCymru: Mae angen gweledigaeth glir ar gyfer addysg bellach ar Lywodraeth nesaf Cymru a rhaid sicrhau'r gefnogaeth a'r cyllid i'w darparu

Faceless students in college grounds.jpg

Heddiw mae ColegauCymru yn cyhoeddi ein Hargymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. 
  
Mae'r etholiadau i Senedd Cymru ym mis Mai 2021 yn cynnig cyfle delfrydol i ailffocysu a mireinio rôl a chyfraniad unigryw addysg bellach i gymunedau amrywiol a deinamig Cymru. 
  
Yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad ymchwil a gomisiynwyd yn annibynnol, Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru, mae ein Hargymhellion Polisi yn amlinellu sut y gallai ymyriadau cyraeddadwy ac wedi'u targedu trawsnewid darpariaeth addysg ôl-16 mewn Cymru. 
  
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru Dr Rachel Bowen,

“Wrth edrych yn ôl dros ddatganoli, rydym yn gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru roi mwy o gefnogaeth i'r sector addysg bellach nag y mae wedi'i derbyn mewn blynyddoedd blaenorol. Rydym am weld cymwysterau sy'n hyblyg, yn addas at y diben ac a fydd yn cefnogi'r economi a'r cymunedau mewn Cymru ôl-Covid. Rydym hefyd eisiau gweld perthnasoedd cryfach fyth rhwng sefydliadau addysg bellach a busnes, gwell rheoleiddio ar y sector, gostyngiad mewn cystadleuaeth ddiangen a chynnydd yn y ddarpariaeth o gefnogaeth iechyd meddwl.” 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Gymru nesaf i ganolbwyntio ar 5 maes allweddol: 

  1. Ehangu hawliau ac ymgysylltiad dinasyddion ag addysg 
  2. System gydlynol a chysylltiedig sy'n cynnwys cymwysterau hyblyg a gwerthfawr 
  3. Hawl dysgwyr a staff i lesiant 
  4. Gwell ymgysylltiad sgiliau a busnes 
  5. Gweithlu addysg bellach sy’n addas ar gyfer y dyfodol 

Gellir ystyried pob thema fel maes polisi unigol ond gyda'i gilydd maent yn amlinellu platfform polisi cydlynol ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru ac agenda ar gyfer addysg bellach yn y Senedd. 
  
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Gyda’r weledigaeth, y gefnogaeth a’r cyllid priodol, gall y sector addysg bellach yng Nghymru fod yn offeryn hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i ailadeiladu ein heconomi ôl-Covid wrth helpu cymunedau i ffynnu ac unigolion i lwyddo.” 


  Yn ystod yr wythnos hon, byddwn yn edrych yn agosach ar bob un o'n Hargymhellion Polisi gyda briff manwl, podlediad byr ac animeiddiad fideo esboniadol ar gyfer pob thema.

Gwybodaeth Bellach

Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru  
Llwyddiant yn y Dyfodol: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth Nesaf Cymru mewn addysg ôl-16 a Dysgu Gydol Oes i Gymru  
Mawrth 2021 

Dogfen ymchwil ColegauCymru 
Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru 
Chwefror 2021 

Adnoddau pellach yn ymwneud ag Argymhellion Polisi ColegauCymru  
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.