Llwybrau, Cyfleoedd a Chefnogaeth: Pam Mae Colegau’n Bwysig

pexels-charlotte-may-5965637.jpg

I nodi #WythnosColegau2026, mae Llywydd NUS Cymru, Deio Owen, yn myfyrio ar ei brofiad ei hun o addysg bellach a’r cyfleoedd y mae colegau’n eu darparu i ddysgwyr ledled Cymru. Yn y darn barn hwn, mae’n tynnu sylw at rai o’r materion allweddol sy’n siapio profiadau dysgwyr heddiw -gan gynnwys pwysigrwydd cyngor ac arweiniad annibynnol, yr angen am drafnidiaeth fforddiadwy a dibynadwy, a rôl hanfodol colegau wrth gefnogi addysg ddwyieithog. Wrth i golegau ledled Cymru ddathlu eu heffaith, mae Deio yn rhannu pam mae’r materion hyn yn bwysig i ddysgwyr presennol a chenedlaethau’r dyfodol.


Ym Mhen Llŷn, mae’n arferiad bellach i fynd yn syth o’r ysgol ar ôl gorffen eich TGAU i Goleg Meirion Dwyfor ar gyfer beth bynnag ddaw nesaf. Boed hynny’n gwrs Lefel A, BTEC, neu fel arall, mae’r amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael yn y coleg yn wych.   Wnes i orffen yn y coleg nol yn 2020, gyda Covid yn dod a fy amser yn y coleg i ben ychydig fisoedd yn gynt na’r disgwyl. Yn ystod y flwyddyn a hanner ges i yn y Coleg, cyn i’r byd ddod i stop, cefais gyfleoedd i ddilyn cyrsiau roedd yn fy ysgogi, gweithgareddau allgyrsiol oedd yn cefnogi fy addysg, a chael cefnogaeth gan staff a thiwtoriaid heb eu hail. Un o’r pethau gorau am y coleg oedd yr ystod eang o gyrsiau oedd ar gael mewn un lle.  

Heriau Teithio’n Wynebu Dysgwyr Addysg Bellach 

Wrth i ni ddathlu #WythnosColegau2026, mae’n gyfle i mi edrych yn ôl ar fy nghyfnod i yn y coleg, a’r cyfleoedd, yn ogystal â’r heriau sydd yn wynebu dysgwyr, a’r sector. Un o’r prif rwystrau sydd yn atal dysgwyr rhag cael yr addysg maent yn ei haeddu yw mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy, hygyrch a dibynadwy. Wrth i mi drafod â dysgwyr ar draws Cymru, dyma’r pwnc sydd yn cael ei godi amlaf. Er i’r Llywodraeth gyflwyno cynllun peilot o docynnau bws am bunt, tydi hyn dal ddim yn ddigon. Pan ro’n i yn y coleg, doedd y bysiau ddim yn ddibynadwy, na chwaith yn gyfleus er mwyn teithio i’r coleg ac o amgylch ardal wledig fel Llŷn. Mae hynny dal yn wir hyd heddiw, gyda nifer fawr o ddysgwyr yn nodi eu bod methu dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ei fod yn rhy ddrud, a bod y system ddim yn gweithio. Dyma un o’r rhesymau i ni ofyn am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i fyfyrwyr yn ein maniffesto ar gyfer etholiad  Senedd fis Mai. Os am greu system addysg decach i ddysgwyr, ac yn hygyrch i bawb, mae angen sicrhau fod dysgwyr yn gallu cyrraedd y campws er mwyn derbyn ein haddysg fel man cychwyn.  
 
Drwy ddarparu addysg ôl-16 i ardaloedd mawr o’r wlad, mae diffyg trafnidiaeth addas, boed yn fws neu drên yn rhwystr sy’n parhau i nadu llwybr pobl ifanc at addysg. Os am sicrhau fod dysgwyr yn gallu cyrraedd eu man dysgu, mae angen adolygu sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yng Nghymru.  

Dewis y Cam Nesaf: Pam Mae Cyngor ac Arweiniad Annibynnol Mor Bwysig 

Rhywbeth arall oedd ar fy meddwl tra yn y coleg oedd fy ngham nesaf. Yn fy ail flwyddyn yn y coleg, roeddwn yn astudio Cymraeg, bywydeg, hanes a’r BAC. Ro’n i’n gwybod fy mod eisiau mynd i’r brifysgol ar ôl gorffen yn y coleg, ond i astudio beth, doedd hynny ddim mor glir. Roedd y Gymraeg yn apelio, ond roedd gradd cydanrhydedd yn rhywbeth roedd yn apelgar i mi. Es i dri diwrnod agored mewn prifysgolion ar hyd y wlad, gan wybod nad oeddwn eisiau mynd dros glawdd Offa i astudio. Yn y diwedd, es i Gaerdydd i astudio’r Gymraeg a gwleidyddiaeth. Er i mi gael cefnogaeth gan y rhieni a’m mrawd a’n chwaer o ran meddwl am le i fynd a beth i astudio, roedd yn dal i fod yn her gan nad oedd cefnogaeth amlwg ar gael wrth i mi wneud y penderfyniad pwysicaf fy mywyd, ar y pryd. Nid fi oedd yr unig un chwaith. I nifer yn y coleg, roedd meddwl am y cam nesaf yn her, gyda chymaint o ddewis, cwestiynau a phrosesau i’w dilyn, doedd yn sicr ddim yn hawdd.  
 
Mae hyn yn parhau i fod yn wir heddiw. Mae nifer o ddysgwyr ar draws y wlad yn parhau i gael heriau wrth benderfynu ar ba lwybr sydd orau iddyn nhw. Mynd i’r brifysgol? Dilyn prentisiaeth? Mynd yn syth i’r byd gwaith? Aros yn y coleg i ddilyn cwrs addysg uwch? Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddewis, ond mae angen cefnogaeth er mwyn dewis y llwybr fwyaf addas iddyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn cael sylw diweddar gan bwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg y Senedd. Os am sicrhau fod pobl ifanc yn gwneud y penderfyniad gorau, mae angen sicrhau fod ganddom ni’r cyngor ac arweiniad rydym yn ei haeddu, ac mae hynny angen bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.  

Gwerth Cwricwlwm Eang a Darpariaeth Ddwyieithog 

Un o’r pethau gorau o astudio ym Mhwllheli, ac yng Ngholeg Meirion Dwyfor oedd yr ystod eang o bynciau oedd ar gael i’w hastudio yno. O beirianneg forol i’r gyfraith a  gofal cymdeithasol, mae’r ddarpariaeth eang sydd ar gael o dan un to yn cyfoethogi’r profiad dysgu, a hefyd yn agor mwy o ddrysau i bobl ifanc sydd ar ddechrau ein llwybr bywyd.  
 
Budd arall o astudio yn y coleg oedd y ddarpariaeth Gymraeg cryf, gyda bron i bob maes rhaglen ar gael yn Gymraeg, a’r gefnogaeth gan y coleg ar gael yn y Gymraeg hefyd. Roedd hyn yn sicr wedi cyfoethogi fy addysg fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, a hefyd wedi fy ysgogi i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Er bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gryf ym Mhen Llŷn, tydi’r un peth ddim wedi bod yn wir am addysg ôl-16 mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Mae wedi bod yn galonogol gweld y cynnydd sydd wedi bod i sicrhau cynnydd mewn darpariaeth Cymraeg ar draws y wlad, drwy waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac ymdrechion colegau ym mhob cornel o Gymru. Gyda deddf y Gymraeg ac addysg (Cymru) 2025 bellach mewn grym, a’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 bellach yn statudol, mae colegau hefo rhan bwysig iawn i’w chwarae wrth gefnogi siaradwyr newydd.  
 
Yn sicr, mae colegau ar draws Cymru yn cyfoethogi profiad dysgu dysgwyr o bob oed, ac o bob cefndir. Roeddwn i’n ffodus iawn o gael y cyfle i fynd i’r coleg ar ôl gorffen yn yr ysgol, ac yn falch iawn o allu dathlu wythnos colegau wythnos yma.  


Deio Owen
Deio yw Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru), sy'n cynrychioli mwy na 250,000 o fyfyrwyr, prentisiaid a dysgwyr ledled Cymru. Yn wreiddiol o Bwllheli, bu'n gwasanaethu fel Llywydd Undeb Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac mae'n eiriolwr angerddol dros gynrychiolaeth myfyrwyr a'r iaith Gymraeg. 
 
Gwybodaeth Bellach 
  
Gallwch glywed mwy o safbwyntiau Deio ar yr heriau teithio sy'n wynebu dysgwyr addysg bellach - a gweld yn uniongyrchol sut mae cost, cymhlethdod ac annibynadwyedd trafnidiaeth yn effeithio ar ddysgwyr o bob cwr o Gymru - yn y ffilm hon gan ColegauCymru, Teithio Teg, Dyfodol Teg: Pam mae angen datrysiad cenedlaethol brys ar deithio gan ddysgwyr

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.