Pweru Dyfodol Cymru: ColegauCymru yn Lansio Ymgyrch #AddewidSgiliau

Catrin Evans, Coleg Menai, Skills Competition Wales ,Health and Social Care Gold medal winner (3).jpg

Mae Colegau Cymru wedi lansio ei ymgyrch #PweruCymru #AddewidSgiliau, gan alw ar Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol a chefnogwyr eraill i hyrwyddo rôl hanfodol addysg sgiliau a galwedigaethol wrth yrru twf economaidd, cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol Cymru. Mae'r ymgyrch yn cyd-daro â Rowndiau Terfynol Cenedlaethol #WorldSkillsUK, a gynhelir ar draws colegau De Cymru o 25 i 28 Tachwedd, a'i nod yw tynnu sylw at y bobl ifanc dalentog sy'n llunio dyfodol Cymru.

Mae ymgyrch yr Addewid Sgiliau yn annog llunwyr polisi i gefnogi pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer Cymru sgiliau uchel, tecach:

  • Cydraddoldeb ar gyfer Sgiliau Galwedigaethol a Thechnegol

Rhoi'r un statws i addysg alwedigaethol a thechnegol â llwybrau academaidd - gyda Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol newydd ac Awdurdod Sgiliau'r Dyfodol i yrru Cymru tuag at economi sgiliau uchel.

  • Llwybrau i Bob Person Ifanc

Creu Llwybrau Dysgu a Chynnydd 14 - 19 fel y gall pob dysgwr gael mynediad at opsiynau galwedigaethol o ansawdd uchel a chymryd eu cam cyntaf i yrfa werth chweil.

  • Prentisiaethau ar gyfer Twf

Buddsoddi i ddarparu 125,000 o brentisiaethau - gan roi'r gweithlu medrus sydd ei angen ar gyflogwyr a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu i ddysgwyr.

  • Sgiliau Uwch, Twf Lleol

Ehangu darpariaeth Lefel 4 - 5 mewn colegau i gryfhau llwybrau amgen i sgiliau uwch, gan gefnogi anghenion economaidd lleol a rhanbarthol.

  • Gwarant Dysgu Gydol Oes

Cyflwyno hawl gyffredinol i ddysgu gydol oes - gan helpu oedolion i uwchsgilio, ailsgilio, a meithrin hyder ar unrhyw gam o fywyd.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae ColegauCymru yn annog cefnogwyr i gymryd yr #AddewidSgiliau trwy rannu lluniau neu fideos byr ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio capsiynau a hashnodau awgrymedig yr ymgyrch.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

“Ar adeg pan fo Cymru yn wynebu heriau economaidd sylweddol, mae buddsoddi mewn sgiliau yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cenedl. Mae'r Addewid Sgiliau yn alwad i weithredu i bawb sy'n credu ym mhŵer addysg i drawsnewid bywydau a chymunedau. Drwy gefnogi'r blaenoriaethau hyn, gallwn adeiladu Cymru decach a mwy ffyniannus i bawb.”

Gwybodaeth Bellach

Maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiad #Senedd2026
Twf, Cyfle a Thegwch

 

 

 

 

Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk

#PweruCymru

Gweledigaeth Newydd ar gyfer Sgiliau

#AddewidSgiliau

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.