Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd

Taking notes and working on laptop.jpg

Blaenoriaethau strategol am y chwe mis cyntaf; a blaenoriaethau tymor hir

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd
Dyddiad Cyflwyno: 17 Medi 2021

Mae ColegauCymru yn tynnu sylw at nifer o faterion y gallai'r Pwyllgor eu harchwilio dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys effaith newidiadau diweddar i gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol; y posibilrwydd o ailstrwythuro rhai rolau gofal iechyd (fel yr awgrymir yn ein hadroddiad Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru); llwybrau i ysgolion meddygol; yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd weithio gyda cholegau Addysg Bellach leol i ddiwallu anghenion hyfforddi'r ystod o swyddogaethau a rolau ar draws y GIG; alinio polisi Llywodraeth Cymru ar weithgareddau corfforol ac iechyd ag adferiad ôl-bandemig; a chynlluniau posib ar gyfer annog pobl sydd wedi cael eu diswyddo oherwydd Covid i ailhyfforddi ar gyfer rolau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Bowen@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.