Pwyllgor Safonau Ymddygiad Y Senedd Adolygiad o grwpiau trawsbleidiol

Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor Safonau Ymddygiad Y Senedd
Dyddiad Cyflwyno: 2 Medi 2022

Mae ColegauCymru yn fodlon ar y cyfan â'r trefniadau presennol. Rhaid cydnabod bod GRhGau niferus y Senedd yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd ac yn cwmpasu ystod amrywiol o bynciau. Os cânt eu defnyddio’n effeithiol, gallant weithredu fel cyfrwng i eirioli/lobïo ar faterion penodol i Aelodau’r Senedd sydd â diddordeb ac o bosibl i Weinidogion, os cânt eu gwahodd ac os gallant fod yn bresennol. Gall hyn arwain at gamau gweithredu megis defnyddio sianeli Senedd priodol ar gyfer cwestiynau llafar neu ysgrifenedig, dadleuon, datganiadau 90 eiliad ac ati.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.