Sgiliau Heb Ffiniau: Beth mae Dysgu Byd-eang yn ei Olygu i Gymru

worldskills lyon image.jpg

Mae hygludedd sgiliau a'r gallu i gydnabod dysgu ar draws ffiniau'n dod yn fwyfwy pwysig mewn economi fyd-eang sy'n newid. Yn ddiweddar, mynychodd Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol ColegauCymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd, gynhadledd Quality and Qualifications Ireland (QQI), a ddaeth ag ystod o sefydliadau o bob cwr o'r byd ynghyd i drafod hygludedd sgiliau a symudedd talent. Yma, mae Jeff yn myfyrio ar rai o themâu allweddol y gynhadledd a'r hyn y gallent ei olygu i Gymru. 

Mae cymwysterau'n gweithredu fel arian cyfred pwysig yn y byd yr ydym yn byw ynddo, ac mae'r ffordd rydym yn disgrifio ac yn trefnu cymwysterau yn hollbwysig i ddysgwyr, cyflogwyr, darparwyr addysg a llunwyr polisi. Mae'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn fframwaith cenedlaethol a gynlluniwyd i ddisgrifio a threfnu cymwysterau a dysgu yng Nghymru. Mae'n fframwaith dysgu cynhwysol sy'n cwmpasu pob lefel o ddysgu, o'r camau cynnar iawn (Mynediad, Lefelau 1, 2 a 3) hyd at y lefelau mwyaf datblygedig (Lefel 8). Mae ColegauCymru yn rheoli'r FfCChC ar ran Llywodraeth Cymru, ac roedd cynhadledd QQI yr wythnos ddiwethaf yn gyfle i archwilio hygludedd sgiliau a symudedd talent gyda sefydliadau o bob rhan o'r byd. Mae perthynas newidiol y DU â'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn sgil Brexit wedi arwain at ystyriaeth ddyfnach ynghylch a allai cydweithio neu gymharu'n agosach helpu i wneud cymwysterau'n haws eu deall a'u cydnabod ar draws ffiniau. Mae un peth yn glir. Os ydym am alluogi pobl i symud rhwng dysgu a gwaith, newid gyrfa, adeiladu ar yr hyn y maent eisoes wedi'i gyflawni neu ddefnyddio eu sgiliau mewn mannau eraill, mae angen hyder arnynt y bydd yr hyn y maent yn ei wybod a'r hyn y gallant ei wneud yn cael ei ddeall a'i werthfawrogi. Mae angen yr un hyder ar gyflogwyr a darparwyr addysg hefyd. I Gymru, felly, nid yw'r her yn ymwneud yn unig â gwneud cymwysterau'n gymaradwy. Mae'n ymwneud â gwneud sgiliau'n wirioneddol gludadwy. 

Gwneud i Ddysgu a Phrofiad Gyfrif 

Er y gall fframweithiau cymwysterau ymddangos yn dechnegol, mae'r cwestiynau sydd wrth eu gwraidd yn syml. A all cyflogwr ddeall pa wybodaeth sydd gan unigolyn a beth y gall ei gyflawni? A all dysgwr adeiladu ar ei gynnydd a symud ymlaen i'r cam nesaf o'i daith ddysgu heb ailadrodd diangen? A ellir cydnabod y sgiliau gwerthfawr a gafwyd drwy waith, hyfforddiant neu addysg wrth symud rhwng sefydliadau, sectorau neu wledydd? Mae'r FfCChC yn darparu ffordd i Gymru ddisgrifio a threfnu dysgu, cefnogi dilyniant a deall sut mae cymwysterau yng Nghymru yn perthyn i rai a ddarperir mewn gwledydd eraill. Y cwestiwn allweddol yw a all dysgwyr, ar unrhyw gam o'u taith, gario eu dysgu a'u cyflawniadau gyda nhw i'r cam nesaf. Yn y cyd-destun hwn, mae cydnabod dysgu blaenorol (RPL) yn hollbwysig. Mae RPL yn broses lle asesir tystiolaeth o ddysgu neu gyflawniadau blaenorol dysgwr, a gellir ei defnyddio i'w eithrio rhag rhan neu'r cyfan o gymhwyster. Pan fydd dysgwr yn barod i symud ymlaen neu ddychwelyd i addysg ar ôl cyfnod i ffwrdd, mae'n bwysig dechrau drwy ddeall beth y mae eisoes yn ei wybod, beth y gall ei wneud, a beth y mae wedi'i ddysgu drwy waith a phrofiad bywyd a all gyfrif tuag at ei gam nesaf. Gall RPL leihau ailadrodd diangen, cydnabod dysgu a gafwyd drwy gyflogaeth a helpu pobl i symud ymlaen tuag at gyflawniadau cydnabyddedig. Mae'n ymwneud â chydnabod dysgu presennol mewn ffordd gadarn ac wedi'i sicrhau o ran ansawdd. Gall RPL fod yn drawsnewidiol, a byddai system effeithiol yn helpu i sicrhau llwybrau at ddysgu gydol oes i bawb, gan gefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. 

Dysgu Hyblyg ar gyfer Byd sy'n Newid 

Roedd cynhadledd QQI hefyd yn gyfle i fyfyrio ar ddatblygiad a darpariaeth micro-gymwysterau - dull byrrach a mwy modiwlaidd o ddysgu. Yn gynyddol, mae angen cyfleoedd ar unigolion i ddatblygu eu sgiliau ochr yn ochr â gwaith a chyfrifoldebau eraill, tra bod angen system sgiliau ar gyflogwyr sy'n gallu ymateb wrth i swyddi a gofynion sgiliau newid. Mae angen cynyddol i ddysgwyr allu cael gafael ar wybodaeth sy'n egluro beth mae micro-gymhwyster yn ei gynrychioli, ac mae angen i gyflogwyr ddeall beth y maent yn ei gydnabod yn eu cyd-destun eu hunain a sut y gall gyfrannu at ddysgu pellach. Yr her i lunwyr polisi yw canfod y cydbwysedd cywir wrth i ficro-gymwysterau ddatblygu, gan gadw dysgu'n hyblyg ac ymatebol wrth sicrhau deilliannau clir, asesu credadwy a llwybrau dilyniant syml. 

Cyfle i Gymru 

Mae gan Gymru eisoes lawer o'r blociau adeiladu allweddol ar waith, gan gynnwys y FfCChC, gwaith sy'n datblygu ar RPL a micro-gymwysterau, ac ymrwymiad ehangach i ddysgu gydol oes hyblyg. Gyda llywodraeth newydd wedi ymrwymo i ddatblygu system sgiliau Gymreig sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae gennym gyfle i sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion gwirioneddol cyflogwyr a diwydiannau Cymru, gan adlewyrchu'r cyfleoedd sydd o'n blaenau yn economi Cymru. 

Gwybodaeth Bellach

ColegauCymru a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC)

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Jeff Protheroe, Ymgynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.