Digwyddiad llwyddiannus Aml-chwaraeon Pen-bre yn gweld dros 200 o staff a myfyrwyr coleg yn cymryd rhan mewn digwyddiadau deuathlon cystadleuol a Go-Tri.

MicrosoftTeams-image (4).png

Rhoddodd y rasys gyfle i fyfyrwyr AB o golegau yng Nghymru naill ai rasio’n gystadleuol mewn deuathlon a oedd yn cynnwys rhedeg 5km, wedi dilyn gan feicio 20km ac yna 2.5km arall o redeg neu roi cynnig ar ddeuathlon am y tro cyntaf yn dilyn y Go- Tri llwybr.

Roedd y digwyddiad Go-Tri hefyd yn galluogi myfyrwyr addysg bellach o bob gallu i gymryd rhan mewn ras ar gyflymder eu hunain gyda'r cymorth perthnasol, gyda’r ras fyrrach yn rhoi cyfle iddynt brofi deuathlon am y tro cyntaf heb bwysau o orfod cystadlu. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda 5 ton o fyfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a Choleg Pen-y-bont yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Cafodd y digwyddiad sylw gan sawl sefydliad cyfryngol gyda chyfweliadau ar Radio Cymru a rhaglen S4C Heno yn ei ddangos ar nos Iau.

 

Hoffai ColegauCymru ddiolch i’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol y broses o drefnu’r digwyddiad hwn gan gynnwys Triathlon Cymru, Coleg Sir Gâr, Chwaraeon AoC, Beicio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre.

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru ColegauCymru

“Roedd heddiw’n arddangos pwysigrwydd lles gweithredol mewn addysg bellach ac wedi cyflwyno digwyddiad efallai nad oedd rhai wedi ystyried cymryd rhan ynddo o’r blaen. Roedd yn wych gweld cymaint yn dod i Ben-bre a gobeithiwn y bydd dysgwyr a staff o’r holl golegau a gymerodd ran wedi mwynhau ac yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol.”

Mae gwybodaeth am enillwyr a chanlyniadau'r ras i'w gweld isod:

Enillydd Staff Dynion: 1) Martin Flear: 1:06:32 2) Scott Evans 1:08:31 3) Christian Regis: 1:10:36
Enillydd Staff Benywod: 1) Lucy John: 1:15:18 2) Rebecca Lewis: 1:19:58 3) Jessica O’Driscoll: 1:20:39
Enillydd y Dysgwyr Dynion: 1) James Harries: 59:47 2) Brychan Lewis: 1:22:57 3) Finley Thomas 1:27:18
Enillydd y Dysgwyr Benywod: 1) Kelly Fogg: 1:56:43 2) Macey Jones: 1:56:43

Gwybodaeth Bellach   

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru 
Robert.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.