Troi Ymwybyddiaeth mewn i Weithrediad: Iechyd Meddwl a Lles mewn Addysg Bellach

pexels-keira-burton-6146975.jpg

Yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl - cyfle ledled y DU i ganolbwyntio ar iechyd meddwl, herio stigma a siarad yn fwy agored am ein lles. Y thema eleni yw Gweithredu, gan ein hatgoffa, er bod ymwybyddiaeth yn bwysig, mae cynnydd gwirioneddol yn dod o droi dealltwriaeth yn ymarfer. Mae ColegauCymru yn glir, er mwyn cefnogi dysgwyr a staff y coleg, bod yn rhaid rhoi pwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar, buddsoddiad cynaliadwy mewn lles a diogelu, a mwy o gydweithredu ar draws addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae colegau eisoes yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi dysgwyr a staff cyn i'r anghenion waethygu. Mae hefyd yn adlewyrchu ein galwad am ymagwedd coleg gyfan at gymorth iechyd meddwl, un sy'n cydnabod colegau fel partneriaid allweddol wrth hyrwyddo lles yn ein cymunedau, wrth sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi trwy fuddsoddiad cynaliadwy, mynediad at wasanaethau a chydweithrediad traws-sector cryfach. 

Mae'r galw am gymorth bugeiliol, lles a diogelu mewn addysg bellach wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag atgyfeiriadau lles a diogelu yn fwy na dyblu dros bum mlynedd. Ochr yn ochr â'r galw cynyddol hwn, mae colegau yn gweld anghenion mwy cymhleth, gan gynnwys lefelau uwch o salwch meddwl, trawma, niwroamrywiaeth a straen sy'n gysylltiedig â thlodi. Yn ymarferol, mae sefydliadau addysg bellach yn gweithredu yn fwy fel gwasanaethau rheng flaen, gan weithio'n ddiflino i gefnogi dysgwyr a staff fel ei gilydd. 

Mae'r ffocws cynyddol ar atal a gweithio mewn partneriaeth yn gadarnhaol, ond mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod colegau yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gadw i fyny â'r galw cynyddol. Mae gweithio mewn partneriaeth yn y sector addysg bellach i'w weld gyda sefydliadau fel Mind Cymru, sy'n dweud wrthym mai iechyd meddwl yw popeth a gall effeithio ar bob rhan o'n bywydau, felly nawr, yn fwy nag erioed, mae angen iddo gael ei flaenoriaethu gan Lywodraeth newydd Cymru. Mae gan golegau rôl allweddol wrth helpu pobl ifanc i siarad am unrhyw broblemau sydd ganddynt, yn ogystal â darparu cymorth a chyfeirio at help ymhellach. 

Troi ymwybyddiaeth yn Weithred 

Ar draws y sector, mae colegau eisoes yn ymateb gyda chreadigrwydd a gofal, o raglenni ataliol i gymorth wedi'u teilwra, sy'n canolbwyntio ar ddysgwr. Mae'r astudiaeth achos hwn yn tynnu sylw at sut mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mewn ffordd ymarferol: 

Prosiect Baxter, Y Coleg Merthyr Tudful 

Mae Prosiect Baxter, rhaglen ymyrraeth gynnar therapiwtig â chymorth anifeiliaid sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at gymorth lles yn Y Coleg Merthyr Tudful. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle i ddysgwr i siarad tra’n mynd am dro gyda Cooper, y ci therapi, wedi helpu i greu gofod mwy hamddenol lle gallant agor a mynegi sut maen nhw'n teimlo. Mae'r cymorth yn gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaethau lles presennol i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn yr help sydd ei angen arnynt, gan gynnig dull gwahanol a all hwyluso'r trawsnewidiad i'r coleg. 

Dechreuodd un dysgwr fanteisio ar y cymorth yma yn dilyn profiad o drallod sylweddol yn dilyn salwch teuluol. Trwy sesiynau wythnosol gyda'i gweithiwr allweddol a Cooper, ochr yn ochr â chefnogaeth lles parhaus yn y coleg, mae hi wedi magu fwy o hyder, wedi cael mynediad at gymorth ehangach fel gweithgareddau cyflogadwyedd a lles, ac mae bellach mewn cyflogaeth ran-amser ac ar y trywydd iawn i gwblhau ei chwrs coleg. 


Edrych tua’r dyfodol 

Mae maniffesto ColegauCymru, Twf, Cyfle a Thegwch, yn glir yn ein gofyn i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda Medr, sef ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl a lles mewn colegau sy'n helpu i greu cymunedau iachach a mwy gwydn. Rhaid i hyn gyd-fynd â gwell mynediad at wasanaethau statudol, buddsoddiad mewn datblygu'r gweithlu, ac ymyrraeth gynnar gadarn. 
Mae buddsoddiad parhaus mewn hyfforddwyr bugeiliol, darpariaeth iechyd meddwl a chymorth amlasiantaeth hefyd yn hanfodol, nid yn unig i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt, ond hefyd i gadw llwyth gwaith staff yn rheoladwy. 

Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon, mae'r neges o'r sector addysg bellach yn glir: mae colegau yn barod i chwarae eu rhan. Gyda'r gefnogaeth, y bartneriaeth a'r buddsoddiad cywir, gall ymwybyddiaeth droi'n weithredu ystyrlon - i ddysgwyr, i staff, ac er lles cymunedau ledled Cymru. 

Gwybodaeth Bellach 

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
11 - 17 May 2026 
 
Mae Strategaeth Lles Actif ColegauCymru yn canolbwyntio ar werth gweithgarwch corfforol a bod yn actif er mwyn cefnogi iechyd meddwl da. 

Maniffesto ColegauCymru 
Twf, Cyfle a Thegwch

Amy Williams, Swyddog Polisi 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.