ColegauCymru’n croesawu’r penderfyniad i ddyfarnu cymwysterau ar sail Graddau Asesu Canolfannau

Adrian White megan a level results - GCS small.png

Mae ColegauCymru’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg y bydd cymwysterau yng Nghymru nawr yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau (CAGs). Er nad heb broblemau, credwn mai dyma'r dull tecaf sy'n ymddiried ym marn broffesiynol athrawon ac a fydd yn sicrhau na fydd dysgwyr yng Nghymru dan anfantais o gymharu â dysgwyr yng nghenhedloedd eraill y DU. 

Mae staff ein colegau wedi gweithio'n ddiflino dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, gan ddilyn yn ofalus canllawiau penodol a'u prosesau mewnol cadarn eu hunain er mwyn sicrhau bod y cymwysterau'n cael eu graddio'n deg ac yn gywir. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Dafydd Evans,

“Mae'r amser, yr ymdrech a'r ymroddiad y mae darlithwyr ac arweinwyr cwricwlwm wedi'u rhoi i’r broses ddyfarnu i sicrhau ei gywirdeb wedi bod yn ddigynsail ac yn sylweddol. Rydym yn ddiolchgar bod eu hymdrechion bellach wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru.” 

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd, gyda'r sector addysg yn gorfod wynebu nifer o heriau. Er nad yw'n ateb perffaith, mae'r cam yn mynd yn bell i leihau'r straen ar ddysgwyr, eu teuluoedd a staff fel ei gilydd. Mae hefyd nawr yn caniatáu ar gyfer dilyniant. 

Erys materion 
Fodd bynnag, erys nifer o faterion heb eu datrys. Mae ColegauCymru yn ceisio eglurhad brys ar statws dyfarniadau galwedigaethol gan gynnwys a fydd y dull CAG hefyd yn berthnasol yma. Rydym hefyd yn ceisio mynd i'r afael â chanlyniadau galwedigaethol coll a sicrhau y gall dysgwyr sy'n aros i gwblhau asesiadiau wneud hynny cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd yn gofyn am eglurder pellach ar statws graddau cymwysterau UG a gafodd eu hailsefyll yn 2020. 

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw, ac yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ymateb i bryderon cyfunol dysgwyr, eu teuluoedd a’r sector addysg ehangach. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Staff Gwasanaethau Dysgwyr ein colegau sydd wedi ac yn parhau i weithio’n eithriadol o galed i gefnogi a chynghori dysgwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.” 

Edrych ymlaen 

Bydd yn hanfodol adolygu'r broses o ddatblygu a dyfarnu canlyniadau cymwysterau ar gyfer cyfres haf 2020 sy'n edrych yn fanwl ar p'un a gafodd grwpiau penodol o ddysgwyr eu hisraddio ai peidio. Dylid gwneud hyn gyda'r bwriad o ddysgu gwersi a datblygu gwell dadansoddiad a rhagfynegiad data yn y dyfodol. 

Mae ColegauCymru yn ymrwymo i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn y llywodraeth, Cymwysterau Cymru a CBAC i amlinellu a chynllunio sut y bydd arholi ac asesu yn debygol o ddigwydd yn haf 2021. 
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.