Cymru i Gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK 2025 am y tro cyntaf

pexels-cottonbro-studio-6208709.jpg

Mae ColegauCymru wrth ein bodd y bydd Cymru yr wythnos hon yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK am y tro cyntaf ar 25 - 28 Tachwedd 2025, gan gynnig cyfle mawr i amlygu'r dalent, yr uchelgais a'r arloesedd sy'n dod i'r amlwg o'n sector addysg bellach. 

O'r 417 o ymgeiswyr terfynol sy'n cystadlu o bob cwr o'r DU, bydd Cymru'n cael ei chynrychioli'n falch gan 102 o bobl ifanc o 10 coleg, gan gymryd rhan mewn 33 o gystadlaethau mewn meysydd gan gynnwys diwydiant 4.0, seiberddiogelwch ac ynni adnewyddadwy. Cynhelir digwyddiadau ar draws tri choleg: Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Choleg Gwent. 

Dathlu Rhagoriaeth Sgiliau Cymru 

Mae cyrraedd y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn adlewyrchu sgil, ymroddiad a phenderfyniad eithriadol ein dysgwyr a'r gefnogaeth maen nhw'n ei derbyn gan golegau ledled Cymru. Mae'r cystadlaethau hyn yn dangos y rôl hanfodol y mae addysg bellach yn ei chwarae wrth baratoi pobl ifanc gyda'r sgiliau technegol a chyflogadwyedd sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Rydym yn hynod falch o bob dysgwr sy’n cynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK. Mae eu cyflawniadau’n tynnu sylw at gryfder ein colegau a’r datblygiad sgiliau o ansawdd uchel sy’n digwydd ledled y wlad. Mae cynnal y rowndiau terfynol yng Nghymru yn gyfle gwych i arddangos ein talent, ein harloesedd a’n hymrwymiad i adeiladu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol.” 

Pam Mae Cynnal y Rowndiau Terfynol yn Bwysig? 

Mae cystadlaethau sgiliau yn cryfhau economi Cymru drwy helpu pobl ifanc i feithrin hyder, gwydnwch ac arbenigedd. Gyda ffocws cynyddol ar ddiwydiannau gwyrdd, mae’n arbennig o galonogol gweld momentwm mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy - gan adlewyrchu’r rôl y mae colegau addysg bellach yn ei chwarae wrth baratoi dysgwyr ar gyfer swyddi cynaliadwy yfory. 

Dysgwch fwy am ein gweledigaeth ar gyfer sgiliau a dyfodol addysg bellach yn ein Maniffesto ar gyfer Etholiad #Senedd2026: Twf, Cyfle a Thegwch

Gwybodaeth Bellach 

WorldSkills UK - Excellence in Work 
Rowndiau Terfynol Cenedlaethol 2025 

Maniffesto ColegauCymru ar gyfer #Senedd2026 
Twf, Cyfle a Thegwch 

Amy Williams, Swyddog Polisi ColegauCymru 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.