Llunio dyfodol addysg bellach – darparu Cymru gryfach, wyrddach a thecach
Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2023
* MAE'R DUDALEN COFRESTRU AR AGOR *
Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a gynhelir ar 12 Hydref 2023 yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.
Gydag agenda lawn, mae’r Gynhadledd yn addo dod â rhanddeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant, o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ynghyd i ddangos gwerth addysg bellach. Byddwn yn myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o gyfnod heriol ond byddwn hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan archwilio cylch gwaith cynlluniau Llywodraeth Cymru i ailwampio’r ffordd y caiff addysg ôl-16 ei llywodraethu a’i darparu yng Nghymru, yn unol â’u cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Anerchiad Arbennig
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg yn traddodi ein prif anerchiad. Penodwyd Jeremy Miles AS yn Weinidog yn 2021, ac mae ganddo bortffolio eang sy’n cwmpasu addysg bellach, addysg drydyddol gan gynnwys diwygio ôl-16, y Gymraeg, a hyfforddiant a datblygiad y gweithlu addysg.
Prif Noddwr
Mae’n bleser gennym gyhoeddi City & Guilds fel Prif Noddwyr y gynhadledd.
Siaradwyr y Gynhadledd
Bydd y Gynhadledd hefyd yn cynnwys siaradwyr a fydd yn edrych ar ystod o heriau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector yn y tymor byr i ganolig.
- Simon Pirotte, Prif Weithredwr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
- Orla Tarn, Llywydd, UCM Cymru
- Gwyneth Sweatman, Pennaeth Materion Cyhoeddus, Ffederasiwn Busnesau Bach
- Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd
- Sian Cartwright, Swyddog Cenedlaethol Dysgu a Sgiliau, TUC Cymru
- Louise Warde Hunter, Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Metropolitan Belfast
Bydd cyfraniadau hefyd gan Estyn a Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Sesiynau Grŵp
Bydd y Gynhadledd yn ein gweld yn cynnal nifer o sesiynau grŵp mewn meysydd gan gynnwys:
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Edrych tuag at Gymru Wrth-hiliol 2030
- Adeiladu strategaeth addysg alwedigaethol i Gymru
- Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith
- Lles Actif mewn Addysg Bellach: Colegau Actif – Bywydau Actif – Cymru Actif
- Mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn addysg bellach
- Dyfodol Newydd Cymru: Cefnogi menywod i fyd dechnoleg
- Sut y gall ymweliadau a phartneriaethau rhyngwladol wella a chyfoethogi dysgu ac addysgu ar draws y sector
- Deallusrwydd Artiffisial - Cyfleoedd a heriau diogelu
Noddwyr a Gofod Arddangos
Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi digon o gyfle i gynrychiolwyr ymweld â'n gofod arddangos i rwydweithio a meithrin perthnasoedd.
Cofrestru
* COFRESTRU AR AGOR *
Bydd e-bost yn cael ei anfon gyda'r ddolen archebu i'r rhai yr ydym eisoes wedi cysylltu â nhw. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cysylltwch Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ym mis Hydref.
Gwybodaeth Bellach
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau. Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Ymholiadau Nawdd
Mae gennym nifer o gyfleoedd noddi ar gael. Cysylltwch ag Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk i drafod.