together.webp

Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi.

Grŵp Strategol Profiad y Dysgwr ColegauCymru

Dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr Coleg Penybont, Viv Buckley, a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC, Catherine Lewis, mae Grŵp Profiad y Dysgwr ColegauCymru yn hyrwyddo, cefnogi, ac yn ymgorffori'r safonau uchaf o gyngor, cefnogaeth ac arweiniad i bob unigolyn mewn colegau ledled Cymru. Ffocws y grŵp yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi, ei glywed a'i fod yn gallu ffynnu, wrth hyrwyddo a hwyluso mentrau Iechyd Meddwl, Llesiant a Lles Actif, ac eiriol dros iechyd ac anghenion dysgwyr a'r gymuned ehangach.

Siarter Cynefin

Mae colegau Cymru wedi llofnodi Siarter Cynefin newydd, ymrwymiad ledled y sector dan arweiniad ColegauCymru i gryfhau perthyn, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg bellach. Mae pob coleg AB yng Nghymru wedi addo ymgorffori'r ymrwymiadau hyn mewn arweinyddiaeth, addysgu, diwylliant ac ymgysylltu cymunedol. Mae'r Siarter hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad y sector i wrth-hilioldeb ac yn ei gwneud yn ofynnol i golegau osod amcanion amrywiaeth a chynhwysiant mesuradwy, monitro cynnydd, a defnyddio data a phrofiad byw i yrru gwelliant.

Mynd i’r Afael â Cham-drin Merched a Hyrwyddo Perthnasoedd Parchus

Cynhaliodd Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Cambria ddigwyddiadau mawr gan ddod â dros 500 o ddysgwyr gwrywaidd ifanc ynghyd i wynebu cam-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus, gan gynnwys sgyrsiau pwerus a gweithdai cydweithredol. Roedd hyn yn rhan o brosiect a ariannwyd gan Taith a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â cham-drin menywod a gwella addysg perthnasoedd mewn colegau AB. Nod y fenter yw gyrru newid diwylliannol hirdymor ar draws sector AB Cymru trwy gydweithio, deialog agored, a phartneriaeth ryngwladol.

Hyfforddiant Be More Than a Bystander

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiadau hyn, sicrhaodd ColegauCymru £40,000 mewn cyllid newydd i ehangu ei waith yn mynd i’r afael â cham-drin meerched mewn colegau AB ledled Cymru. Nod yr hyfforddiant Be More Than a Bystander yw cyfarparu dynion ifanc - yn enwedig y rhai ar gyrsiau galwedigaethol - ag offer ymarferol i herio cam-drin merched a hyrwyddo perthnasoedd parchus, gan ymateb yn uniongyrchol i bryderon a godwyd yn adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Cefnogi Llywodraeth Cymru ar ei thaith i ddod yn Gymru Wrth-hiliol erbyn 2030

Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru yn dangos arweiniad gwirioneddol ar y daith tuag at wrth-hiliaeth, ac yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o greu Cymru wrth-hiliol. Nid ydym yn hunanfodlon ynghylch maint yr her nac ychwaith y gall strategaethau yn unig atal y profiad o hiliaeth y mae dysgwyr a staff yn ei wynebu. Mae ColegauCymru, ar ran ein haelodau, felly wedi ymrwymo i gymryd camau i fod y sector arweiniol i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod uchelgeisiol o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030, gan gynnwys:

  • Mae pob un o'n 13 sefydliadau addysg bellach wedi datblygu Cynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliaeth eu hunain i symud y gwaith hwn yn ei flaen ar lefel leol. Mae pob un wedi datblygu a rhannu adnoddau i gefnogi dysgwyr a staff, ynghyd â chyflwyno hyfforddiant pwrpasol.
  • Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau arbenigol gan gynnwys Black Leadership Group, i helpu i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o Gymru wrth-hiliol.
  • Rydym yn cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i sicrhau bod llais dysgwyr a staff ar draws y sector yn cael ei glywed.
  • Rydym yn rhoi tystiolaeth fel rhan o sesiynau craffu i wahanol bwyllgorau’r Senedd sy’n amlygu sut mae sefydliadau addysg bellach yn arwain y ffordd yn yr ymrwymiad i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i bob dysgwr. Rydym hefyd yn defnyddio'r llwyfannau hyn i dynnu sylw at anghydraddoldeb ac i alw am gymorth ychwanegol.

Menywod a merched

  • Mae ColegauCymru yn eistedd ar Ford Gron Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar urddas misglwyf yng Nghymru.
  • Rydym yn cefnogi ymgyrch Balch o’r Mislif Llywodraeth Cymru - gan ddarparu cyllid i sefydliadau addysg bellach a grwpiau eraill drwy’r grant urddas mislif i sicrhau mynediad am ddim i gynhyrchion mislif, yn y ffordd fwyaf urddasol bosibl. Mae dysgwyr a staff ar draws y cymuned coleg bellach yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif, gyda ffocws ar gefnogi'r rheini o gartrefi incwm isel.
  • Mae ColegauCymru a’n holl aelodau wedi ymrwymo i gefnogi menywod drwy’r menopos ac wedi llofnodi Adduned Gweithle Menopos.
  • Mae ColegauCymru wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid Llwybr 2 Taith i weithio mewn partneriaeth â Colleges and Institutes Canada (CICan) i sefydlu Cymuned Ymarfer rhwng colegau yng Nghymru a Chanada i fynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd yn adroddiad Estyn. Nod y prosiect yw adeiladu Cymuned Ymarfer trawswladol, a fydd yn dod â staff AB o Gymru a’n partner o Ganada, CICan, sydd â diddordeb cyffredin yn y maes hwn at ei gilydd, i rannu gwybodaeth, datblygu dysgu newydd, a choladu enghreifftiau o arfer gorau drwy astudiaethau achos

Yr iaith Gymraeg

  • Mae ein sefydliadau addysg bellach yn cefnogi gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac wedi ymrwymo i ehangu’r cynnig Cymraeg ar draws y sector addysg bellach.
  • Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n cyflwyno’r cynllun Cymraeg Gwaith sy’n cefnogi dros 400 o staff ar draws 11 coleg yn flynyddol i gynyddu’r defnydd o’u Cymraeg yn y gweithle.

Rydym yn falch bod ein sefydliadau addysg bellach yn:

  • gyflogwyr hyderus o ran anabledd - rhan o gynllun Llywodraeth y DU sydd wedi'i gynllunio i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd.
  • ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl ac wedi arwyddo’r addewid Amser i Newid, sy’n ceisio mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu ym maes iechyd meddwl.
  • cefnogi hawliau LHDTC+ - mae ColegauCymru yn aelod o Grŵp Cynghori Ymarferwyr Trawsrywiol Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ a rhoi Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ar waith.

Gwybodaeth Bellach

Amy Williams, Swyddog Polisi 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.