Defnyddir fframweithiau cymwysterau i ddisgrifio cymwysterau mewn ffordd gyson sy'n eu gwneud yn haws eu deall a'u cymharu. Mae gan bob cymhwyster o fewn fframwaith lefel sy'n dangos pa mor anodd ydyw a gwerth credyd sy'n dynodi maint y cymhwyster. Mae hyn yn caniatáu i ddysgu gael ei gydnabod ar draws gwahanol wledydd ac ar draws gwahanol sefydliadau. Mae'n ei gwneud yn haws i fyfyrwyr a gweithwyr symud rhwng sefydliadau ac i wahanol wledydd i weithio ac astudio.
Isod mae dolenni i'r fframweithiau cymhwyster a ddefnyddir gan wahanol gyrff yn y DU ac Iwerddon:
Cymru Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW)
Yr Alban Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban (SCQF)
Lloegr a Gogledd Iwerddon Egluro'r RQF
Iwerddon Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol NFQ
Mae cymwysterau yn y DU ac Iwerddon yn cael eu cymharu mewn dogfen o'r enw Cymwysterau Draws Ffiniau. Caiff hwn ei ddiweddaru'n rheolaidd ac mae'n cynnwys fframweithiau prentisiaeth yn ogystal â chymwysterau rheoleiddiedig.
Addysg Uwch Mae un fframwaith ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac un ar wahân ar gyfer yr Alban. Cyfunir y ddau mewn un cyhoeddiad. Fframweithiau Cymwysterau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA)
Gellir defnyddio fframweithiau hefyd i gasglu dysgu sy'n digwydd y tu allan i gymwysterau ffurfiol, er enghraifft cyrsiau hyfforddi yn y gweithle neu ddysgu trwy brofiad o wneud swydd benodol. Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn galluogi pobl sydd â hyfforddiant heb fod yn ffurfiol ac sydd â dysgu anffurfiol o brofiad i ddefnyddio'r dysgu hwn i gael mynediad i hyfforddiant ffurfiol neu mewn ceisiadau am gyflogaeth.
Gwybodaeth Bellach
Adrian Sheehan a Phil Whitney yw'r prif gysylltiadau ar gyfer y fframweithiau cymhwyster mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.
Adrian.Sheehan@Colegaucymru.ac.uk
Phil.Whitney@ColegauCymru.ac.uk
Tudalennau Cysylltiedig