Prentisiaethau yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd

Female learner with laptop.jpg

Mae Asesydd Busnes a Gweinyddiaeth Coleg Sir Benfro, Emma James, yn rhannu manylion am sut y gwnaeth cwblhau cymhwyster Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2 yn llwyddiannus arwain at ddyrchafiad i un dysgwr. 

Enw'r Dysgwr

Olivia Keenan 

Prentisiaeth 

Lefel 2 Busnes a Gweinyddiaeth 

Coleg 

Coleg Sir Benfro 

 

“Deuthum yn aseswr ar ddechrau’r Cyfnod Clo cyntaf ym mis Mawrth 2020. Olivia oedd un o’m dysgwyr cyntaf ac ar y pryd yn cael ei chyflogi gan Heddlu Dyfed Powys fel Prentis Newid Busnes TGCh. 

Cofrestrodd Olivia ar ein City & Guilds Lefel 2 Gweinyddiaeth Busnes, cymhwyster a gynlluniwyd ar gyfer unigolion sydd am weithio mewn swyddi cymorth gweinyddol mewn sefydliadau sector cyhoeddus neu breifat, neu ar gyfer y rhai sydd am wella eu sgiliau gweinyddol a goruchwylio. 

Caniataodd y cwrs hwn i Olivia gael ei chyflwyno i ofynion rôl weinyddol ac i fagu hyder wrth ddysgu, wrth ddangos tystiolaeth o'i galluoedd. 

Rydym wrth ein bodd bod Olivia wedi cwblhau o fewn y targed, gan weithio i safon uchel iawn trwy gydol ei hastudiaethau. Ar ôl ei chwblhau, aeth ymlaen i wneud cais am swyddi o fewn Heddlu Dyfed Powys ac ym mis Tachwedd 2021, bu’n llwyddiannus yn ei chais am rôl Cymorth Prosiect Newid Busnes TGCh. 

Enwebwyd Olivia hefyd ar gyfer Newydd-ddyfodiad Gorau’r Flwyddyn Heddlu Dyfed Powys 2020. Fel un o 3 yn y rownd derfynol, roedd yn gryn gamp i gael ei henwebu. Mae Olivia yn hapus iawn ac yn falch o fod mewn rôl fwy parhaol yn yr Heddlu.” 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.