Colegau yn dathlu llwyddiant canlyniadau TGAU a galwedigaethol

Adrian White megan a level results - GCS small.png

Mae colegau addysg bellach heddiw yn llongyfarch dysgwyr ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey, 

“Llongyfarchiadau i bob dysgwr wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau yn dilyn dwy flynedd heriol. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant at ein cydweithwyr addysg, a rhieni a gofalwyr fel ei gilydd sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio’r cyfnod anodd hwn.” 

Mae ein colegau yma unwaith eto i gefnogi pobl ifanc i gymryd eu camau nesaf yn eu taith ddysgu. Mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa ddelfrydol i allu bodloni ystod eang o anghenion, gan ganiatáu iddynt gefnogi pob math o ddysgwyr i gyflawni eu llawn botensial. Waeth beth fo’r canlyniadau a gânt heddiw, bydd gan ddysgwyr yr opsiynau gorau sydd ar gael iddynt ac fe’u hanogir i gysylltu â’u coleg lleol i gael gwybod mwy. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr TGAU ar eu canlyniadau
25 Awst 2022

Cysylltwch â'ch coleg lleol am gymorth ac arweiniad. 
Aelodau ColegauCymru 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.