Sector addysg bellach Cymru yn ymrwymo i ddatblygu agenda wrth-hiliol Cymru

Working together.jpg

Mae ColegauCymru a Black FE Leadership Group (BFELG) wedi ffurfio partneriaeth lle mae'r ddwy ochr wedi ymrwymo i ddatblygu agenda wrth-hiliol Cymru. 

Mae'r sefydliadau wedi sefydlu partneriaeth swyddogol ac yn gweithio ar y cyd i adeiladu Cymru lle mae gan bob dysgwr yr hawl i addysg o'r radd flaenaf, wedi'i darparu mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol, o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Rydym yn awyddus i ddod â'r agenda hon i flaen y sector addysg bellach yng Nghymru, gan weithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru sy'n wrth-hiliol ac i gyflawni'r camau a nodir yng Nghynllun 10 Pwynt BFELG.” 

Digwyddiad Diwylliant yn Gyrru Newid 

Lansiwyd y bartneriaeth ar-lein ar 1 Rhagfyr 2021 lle tynnodd ColegauCymru a BFELG sylw at eu gwaith parhaus a'u cyd-flaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod gyda ffocws ar herio hiliaeth, cau bylchau cyrhaeddiad mewn sgiliau, hyfforddiant a chanlyniadau cyflogaeth ymhlith dysgwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, tra hefyd yn cyflawni gweithlu sy'n cynrychioli ethnigrwydd, gan gynnwys mewn rolau arweiniol a llywodraethu mewn addysg bellach. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS hefyd wedi nodi'r blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru. 

Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Addysg Bellach a Sgiliau'r Dyfodol 

Cadeiriwyd digwyddiad Grŵp Trawsbleidiol y Senedd a oedd yn canolbwyntio ar gydraddoldeb hiliol ac addysg bellach gan John Griffiths AS ar 8 Rhagfyr 2021. Roedd ystod eang o gynrychiolwyr addysg bellach, llunwyr polisi, ymchwilwyr gwleidyddol ac aelodau BFELG yn bresennol yn fanylach. gall pob un ohonom gymryd i sicrhau Cymru wrth-hiliol. Fe wnaeth cyfraniadau gan ein haelodau Coleg Caerdydd a’r Fro ac Addysg Oedolion Cymru rhannu profiadau bywyd go iawn a manylion y camau ymarferol a rhagweithiol sydd eisoes yn cael eu cymryd. 

Ychwanegodd Robin Landman OBE, o Dîm Gweithredol BFELG,

“Mae'n wych gweld sut mae'r bartneriaeth rhwng BFELG a ColegauCymru wedi dod at ei gilydd mor gyflym, gyda lefelau uchel o ymrwymiad ar y ddwy ochr. Mae Cymru yn dangos arweinyddiaeth go iawn ym maes Gwrth-hiliaeth ac mae gennym gyfle i gael effaith ystyrlon, gan adeiladu ar ffocws cryf Llywodraeth Cymru ar greu Cymru wrth-hiliol.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies ymhellach,

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi sefydlu’r bartneriaeth bwysig hon gyda BFELG. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd, dysgu gyda'n gilydd, mynd i'r afael â heriau a gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at Gymru wrth-hiliol.” 

Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gadarn hon yn y Flwyddyn Newydd. 

Gwybodaeth Bellach

Llywodraeth Cymru
Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.