Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb derfynol ar gyfer 2026/27. Mae'r gyllideb yn cyflwyno her ddigynsail i golegau addysg bellach Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk,
“Mae hon yn gyllideb hynod siomedig gan Lywodraeth Cymru. Mae’n peryglu cau pobl ifanc allan o addysg, a bydd yn chwalu Gwarant Person Ifanc flaenllaw’r llywodraeth ei hun, gan danseilio’r ymrwymiad y dylai pob person ifanc gael cynnig lle mewn addysg, hyfforddiant neu waith.
Mewn gwirionedd, mae’n gyfystyr â thoriad mewn cyllid ar gyfer pob coleg addysg bellach yng Nghymru a bydd yn creu argyfwng cyllido sylweddol ac uniongyrchol ar draws y sector, gyda diffyg cyllid ledled Cymru o fwy na £25 miliwn. Ers misoedd, rydym wedi rhybuddio pleidiau gwleidyddol yn y Senedd am y pwysau cynyddol sy’n wynebu colegau, wedi’i yrru gan niferoedd record o bobl ifanc yn gwneud cais ac yn cofrestru ar leoedd llawn amser. Oni bai bod y gyllideb hon yn cael ei hailystyried ar frys, gallai miloedd o ddysgwyr ganfod eu hunain heb le coleg ym mis Medi hwn.
Bydd colegau’n cael eu gorfodi i wneud dewisiadau llym gan gynnwys torri cyrsiau, troi dysgwyr i ffwrdd, torri cannoedd o swyddi a lleihau’r gefnogaeth dysgu a lles hanfodol y mae cymaint o ddysgwyr yn dibynnu arni.
Ni allai hyn ddod ar amser gwaeth. Mae cyflogwyr a diwydiannau ledled Cymru yn tynnu sylw at angen brys am weithlu medrus, ond eto addysg bellach - sy'n darparu'r gweithlu hwnnw - yn cael eu gofyn i gofrestru dros 3,000 o ddysgwyr heb unrhyw gyllid. Mae'n sefyllfa anghynaladwy, ac mae angen i Brif Weinidog Cymru a'r Ysgrifennydd Cyllid feddwl eto.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a phob plaid wleidyddol i ddod at ei gilydd, i gydnabod maint yr her, a dod o hyd i'r buddsoddiad sydd ei angen yn daer i amddiffyn dysgwyr, sgiliau, ac economi Cymru’r dyfodol”.
Y flwyddyn academaidd hon, mae colegau wedi cael blwyddyn recriwtio gref arall gyda niferoedd uchel o bobl ifanc yn cofrestru ym mis Medi 2025. Ar adeg y dyddiad rhewi cofrestru ym mis Tachwedd 2025, roedd nifer y dysgwyr llawn amser yn 48,000, sydd tua 4,500 yn fwy nag a gyllidebwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru a chan Medr. Gwnaed rhywfaint o ddarpariaeth eleni i gefnogi twf cynyddol, ond hyd yn oed gan ganiatáu ar gyfer hyn, mae'r sector yn darparu tua £15m - £20m o ddarpariaeth heb ei hariannu. Rydym yn disgwyl i nifer y dysgwyr godi eto yn 2026/27, ac mae'r setliad cyllidebol hwn yn anghynaladwy. Y flwyddyn nesaf, bydd diffyg cyllido ledled Cymru o fwy na £25 miliwn.
Heddiw (20 Ionawr 2026), bydd ColegauCymru yn cynnal cyfarfod o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer Addysg Bellach a Sgiliau gyda dysgwyr coleg yn rhannu eu barn ar gyfranogiad ôl-16 - ehangu mynediad a chael gwared ar rwystrau i ddysgwyr. Bydd grŵp o ddysgwyr sy'n cynrychioli amrywiaeth o golegau o bob cwr o Gymru yn rhannu eu profiadau, a bydd cyfle i drafod atebion i ehangu mynediad a chael gwared ar rwystrau i ddysgwyr. Bydd y drafodaeth hon yn helpu i lywio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar ddod sy'n canolbwyntio ar y sector addysg drydyddol.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol
20 Ionawr 2026
Newyddion ColegauCymru
Diogelu'r Dyfodol: ColegauCymru yn galw am gefnogaeth frys i golegau Cymru
25 Tachwedd 2025
Maniffesto ColegauCymru
Twf, Cyfle a Thegwch
Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk