Tyfu’r economi drwy arfogi’r diwydiant a’r gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu’r heriau a ddaw o economi sy’n newid o ganlyniad i sero net a datblygiad Deallusrwydd Artiffisial.
Ledled y byd, mae diwydiannau yn cael eu hail-siapio’n gyflym gan dechnolegau sy’n datblygu a brys ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd. Er mwyn i Gymru fod yn gystadleuol, rhaid i’r llywodraeth nesaf gyflawni newid sylweddol a buddsoddi a diwygio ein system sgiliau fel y gall pobl o bob oedran gael mynediad at gyfleoedd yn eu hardal ac fel y gall busnesau gael mynediad at y dalent a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i dyfu.
I gyflawni’r genhadaeth hon, dylai llywodraeth nesaf Cymru, gan weithio gyda Medr:
- Datblygu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru. Mae’r strategaeth yn hanfodol i sbarduno twf economaidd ac i ddatblygu’r sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Byddai’r strategaeth yn darparu fframwaith arweiniol ar gyfer Cymwysterau Cymru, cyrff dyfarnu a darparwyr, a byddai’n sicrhau bod llinell glir o atebolrwydd democrataidd o fewn y system.
- Ategu’r Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol gyda chreu Awdurdod Sgiliau’r Dyfodol newydd. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth a mewnwelediadau o’r radd flaenaf am y farchnad lafur fel y gall y llywodraeth, rheoleiddwyr a darparwyr ddeall bylchau mewn sgiliau’r dyfodol a lle mae angen buddsoddi.
- Gweithio gyda’r Sector Addysg Bellach i gyflymu’r datblygiad o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer defnydd cyfrifol ac effeithiol o Ddeallusrwydd Artiffisial. Gyda chefnogaeth, gall colegau gynnwys y sgiliau technegol ac annhechnegol sydd eu hangen ar gyfer AI mewn rhaglenni galwedigaethol ac i gyflwyno argaeledd sgiliau AI yn y gymuned.
- Ail-ymrwymo i Raglen Brentisiaethau newydd i gynnal y momentwm a gyflawnwyd dros ddau dymor diwethaf y Senedd. Dylai llywodraeth nesaf Cymru wrthdroi’r toriadau i’r Rhaglen Brentisiaethau ac ail-ymrwymo i ddarparu o leiaf 125,000 o brentisiaethau o safon ac i bob oedran dros dymor nesaf y Senedd. Mae angen i ni ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o swyddi yn y sector preifat a helpu i ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
- Rhoi rôl ganolog i golegau wrth gyflwyno’r rhaglen cyflogadwyedd datganoledig newydd. Fel sefydliadau angor ac nid-er-elw yn eu cymunedau lleol, mae colegau mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaeth newydd wedi’i lywio gan werth cymdeithasol sy’n gallu cysylltu addysg leol, sgiliau a chymorth iechyd.
- Ariannu colegau i gyflwyno darpariaeth ehangach ar Lefelau 4 a 5, gan gynnwys Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch, lle mae angen economaidd lleol a rhanbarthol uniongyrchol.
- Ariannu colegau i gynnig cyrsiau byrrach ar sail modiwlau i alluogi pobl i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwysterau dros amser, ynghyd ag ailsgilio. Fel rhan o’r dull hwn, dylai colegau gael eu cefnogi i weithio ar y cyd ar gynllun bathodynnau digidol i gydnabod sgiliau, dysgu blaenorol, a chymwyseddau dysgwyr.

Bydd diwydiant adeiladu ffyniannus a gweithwyr medrus yn hanfodol ar gyfer bodloni targedau sero net a chyflawni’r sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Roedd data Medr hefyd yn dangos lleihad o 12% mewn dechreuadau prenisiaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, gan waethygu prinder staff o fewn y GIG ymhellach.
Darllenwch fwy am ein cenhadaethau eraill:
| CENHADAETH 2 | CENHADAETH 3 |
| Gwella diyniant, cyfranogiad a chanlyniadau mewn addysg ôl-16 drwy chwalu rhwystrau, helpu pobl ifanc wneud y penderfyniadau cywir ynghylch eu dyfodol a bod yn barod ar gyfer byd gwaith, a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. | Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle. |
CENHADAETHAU A ATEGIR GAN SEFYDLOGRWYDD ARIANNOL
Ni ellir cyflawni’r tair cenhadaeth heb gydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â phwysau ariannol yn y sector a sicrhau fod gan golegau well sefydlogrwydd ariannol tymor-hir a hyblygrwydd gweithredol i fodloni anghenion eu cymunedau.
Lawrthlwythwch fersiwn lawn
MANIFFESTO COLEGAUCYMRU
Dychwelyd i Hafan y Maniffesto