Gwella dilyniant cyfranogiad a chanlyniadau mewn addysg ôl-16 drwy chwalu rhwystrau, helpu pobl ifanc wneud y penderfyniadau cywir ynghylch eu dyfodol a bod yn barod ar gyfer byd gwaith, a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
Mae’r galw am Addysg Bellach gan unigolion sy’n gadael yr ysgol yn codi ac mae mwy o ddysgwyr yn dewis mynychu colegau ar gyfer cyrsiau academaidd a galwedigaethol. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl ifanc yn ymwybodol o’r ystod o lwybrau sydd ar gael yn y coleg, yn enwedig y cyfle am addysg a hyfforddiant galwedigaethol o safon.
Mae gwasgfa ar ddau ben y sbectrwm cyrhaeddiad. Ar un llaw mae llawer gormod o bobl ifanc yn gadael addysg orfodol gyda dim neu ychydig o gymwysterau a gyda lefelau llythrennedd a rhifedd gwael. Mae llawer yn gadael addysg yn gyfan gwbl neu’n cyrraedd y coleg heb fod yn barod i astudio ar Lefel 3. Ar lefelau uwch o gyrhaeddiad, mae cyfran y bobl ifanc o Gymru sy’n dewis peidio â mynd i’r brifysgol yr isaf yn y DU. Ni all cadw pethau’r un fath fod yn opsiwn ar gyfer y llywodraeth nesaf ac mae angen i ni ail-gydbwyso’r system i wella dilyniant, codi safonau ac i sicrhau fod dysgwyr yn cael y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu dyfodol.
Rhaid i ddysgwyr allu cael mynediad at lwybrau galwedigaethol o ansawdd uchel drwy gydol y cyfnod 14-19. Rydym hefyd eisiau gweld cydweithio a chynllunio ar gynigion cwricwlwm lleol. Rhaid i ddisgyblion ysgol gael mynediad at gyngor ac arweiniad annibynnol o ansawdd uchel gyda cholegau sy’n gallu darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i bob disgybl.
I gyflawni’r genhadaeth hon, dylai llywodraeth nesaf Cymru, gan weithio gyda Medr:
- Ymrwymo i Lwybr Dysgu a Dilyniant 14-19 newydd fel bod gan bob dysgwr fwy o ddewis a gwell cyfleoedd i symud ymlaen ar y llwybr sy’n addas iddyn nhw. Dylai hyn gynnwys cydweithio rhwng ysgolion a cholegau i wella argaeledd a chyfranogiad opsiynau galwedigaethol, gan gynnwys VCSEs, a’r ystod o gymwysterau academaidd sydd ar gael yn lleol.
- Cyflwyno dyletswydd newydd i awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau weithio gyda’i gilydd i ddatblygu llwybrau dysgwr lleol ac i gefnogi dilyniant. Dylai trefniadau cynllunio lleol newydd fod yn sail i bob dysgwr allu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel rhwng 14 a 19 oed. Dylai hyn gael ei gefnogi gan gyllid cenedlaethol i gyflwyno darpariaeth alwedigaethol ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed ac i gefnogi estyniad o’r rhaglenni Prentisiaethau Iau.
- Dechrau adolygiad o gynaladwyedd chweched dosbarth mewn ysgolion, fel rhan o sector trydyddol cydlynol. Dylai hyn ddechrau o fewn 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth newydd a dylai archwilio tystiolaeth i ganfod cynaliadwyedd chweched dosbarth mewn ysgolion bychan. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr her ddaearyddol mewn rhai rhannau o Gymru, ynghyd â phwysigrwydd sicrhau parhad dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn credu fod lle am ddiwygio sylweddol i roi mynediad at gwricwlwm llawn, ansawdd uchel a lleol i bob dysgwr.
- Gwella mynediad at gyngor ac arweiniad gyrfaoedd annibynnol ar gyfer dysgwyr 14-19 fel y gall pobl ifanc wneud y dewisiadau cywir y tro cyntaf. Ochr yn ochr â hyn, rhaid caniatáu i golegau gael mynediad i ysgolion i roi cyngor a gwybodaeth wyneb yn wyneb i’r holl ddysgwyr fel y gallant ddeall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau gwybodus.
- Gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud â theithio dysgwyr, fel nad yw trafnidiaeth byth yn rhwystr i ddysgu, lleoliadau hyfforddiant neu gael mynediad at weithgareddau cyfoethogi. Fel blaenoriaeth, dylai llywodraeth nesaf Cymru gyflwyno cymorth cenedlaethol ar gyfer teithio dysgwyr fel bod pob dysgwr yn cael ei drin yn gyfartal p’un a ydynt yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus megis bysiau, neu drafnidiaeth a ariennir gan y coleg fel bysiau neu drenau.
- Ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar gyfer Hyfforddwyr bugeiliol. Yn 2025, fe wnaeth Estyn dynnu sylw at sut mae colegau yn wynebu heriau cynyddol pan ddaw i sgiliau cymdeithasol a gwydnwch. Mae camddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn dod yn fwy cyffredin. Nid yw gofal bugeiliol yn ddewisol, mae gwaith Hyfforddwr Bugeiliol yn newid bywydau, ac yn achub bywydau. Mae anghenion dysgwyr wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac maent yn gynyddol gymhleth, yn cymryd llawer o amser i staff, ac yn gofyn am waith amlasiantaeth. Felly mae cyllid cynaliadwy ar gyfer Hyfforddwyr Bugeiliol yn hanfodol i ddysgwyr, ac ar gyfer lleihau llwyth gwaith i staff addysgu.
- Ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl a llesiant mewn colegau. Mae nifer yr atgyfeiriadau, llesiant a diogelu yn cynyddu bob blwyddyn ers 2021/22. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi dulliau ataliol gan gynnwys rhaglenni lles actif, sy’n creu cymunedau coleg iachach a mwy gwydn.
- Sicrhau bod rhaglen Taith Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei chefnogi fel y gall gweithgareddau cyfoethogi i ddysgwyr o bob oed a chefndir barhau, a gall symudedd staff wella arferion addysgu, dysgu a chymorth bugeiliol. Rhaid i golegau hefyd fod yn rhan o drafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch dychwelyd i Erasmus+. Byddai ailymuno ag Erasmus+ yn gyfle croesawgar i gryfhau ac ailadeiladu ein perthnasoedd â phartneriaid Ewropeaidd.
- Mae angen buddsoddiad sylweddol o fewn y sector addysg ar bob lefel i gwrdd â tharged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd angen trefniadau pontio cadarn ar gyfer y garfan newydd o ddysgwyr er mwyn galluogi’r Sector Addysg Bellach i ymateb i Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Mae’r Sector Addysg Bellach yn allweddol i lwyddiant yr uchelgeisiau 2050 a bydd angen cefnogaeth ariannol bellach i recriwtio staff newydd ac uwchsgilio staff presennol i allu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan weithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae colegau’n cefnogi eu staff i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, fodd bynnag, bydd angen ymrwymiad sylweddol a buddsoddiad ychwanegol i alluogi gweithlu’r Sector Addysg Bellach i gyflawni uchelgeisiau polisi Llywodraeth Cymru. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi nodi tri chynnig sy’n ymwneud ag ehangu’r ddarpariaeth a recriwtio ac uwchsgilio staff. Mae costau’r cynigion (erbyn diwedd blwyddyn 3) ychydig dros £1 miliwn.
- Sicrhau bod colegau’n derbyn digon o gyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae cynnal lefelau staffio mewn colegau yn hanfodol i reoli’r llwyth gwaith cynyddol o ganlyniad i ddyletswyddau statudol o dan ALNET. Mae rhagamcanion gan arweinwyr ADY colegau yn dangos costau ychwanegol sy’n fwy na £3 miliwn ar gyfer 2025/26. Heb fuddsoddiad cynaliadwy, mae ansawdd a chynaliadwyedd darpariaeth gynhwysol mewn perygl.
Mae hyn o’i gymharu â dysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim lle roeddent yn absennol am 9.8% o’r holl sesiynau ysgol yn 2023/2024.
Darllenwch fwy am ein cenhadaethau eraill:
CENHADAETH 1 | CENHADAETH 3 |
Tyfu’r economi drwy arfogi’r diwydiant a’r gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu’r heriau a ddaw o economi sy’n newid o ganlyniad i sero net a datblygiad Deallusrwydd Artiffisial (AI). | Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle. |
CENHADAETHAU A ATEGIR GAN SEFYDLOGRWYDD ARIANNOL
Ni ellir cyflawni’r tair cenhadaeth heb gydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â phwysau ariannol yn y sector a sicrhau fod gan golegau well sefydlogrwydd ariannol tymor-hir a hyblygrwydd gweithredol i fodloni anghenion eu cymunedau.
Lawrlwythwch fersiwn lawn MANIFFESTO COLEGAUCYMRU