ColegauCymru a BFELG i ddatblygu agenda wrth-hiliaeth addysg bellach

handsin.jpeg

Mae ColegauCymru yn falch o fod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru am brosiect i weithio gyda Black FE Leadership Group (BFELG) i wneud ymchwil cychwynnol i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. 

Gan weithio ar y cyd, byddwn yn ymgysylltu â’n haelodau a rhanddeiliaid addysg bellach allweddol i greu darlun o’r sefyllfa bresennol ar draws y sector addysg bellach. Nod y prosiect yw deall amrywiaeth o faterion gan gynnwys y data sy'n bodoli ar hyn o bryd, sut y gellid cynnal adolygiad o'r cwricwlwm addysg bellach, a sut y gellir gweithredu Cynllun 10 Pwynt a Phecyn Cymorth Diagnostig BFELG. 

Y gobaith yw y bydd yr adolygiad cwmpasu cychwynnol yn helpu i baratoi ar gyfer rhaglen o ymchwil, dadansoddi a datblygu cydraddoldeb ar gyfer y sector, i gefnogi nodau Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Aelod Gweithredol BFELG, Stella Mbubaegbu CBE,

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda ColegauCymru a rhanddeiliaid eraill wrth i ni barhau i wneud cynnydd wrth symud agenda Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn ei blaen”. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiadau dros yr Hydref, rydym wedi ein calonogi gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r maes gwaith pwysig hwn ac yn edrych ymlaen at sicrhau newid gwirioneddol.” 

Gwybodaeth Bellach 

Sector addysg bellach Cymru yn ymrwymo i ddatblygu agenda wrth-hiliol Cymru 
13 Rhagfyr 2021 

Lansiad partneriaeth rhwng ColegauCymru a Grŵp Arweinyddiaeth Addysg Bellach Du 
1 Hydref 2021 

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 
Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol 
Gorffennaf 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.