Manifesto 2026 MISSION 3 Banner CYM.png

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle.

Mae datgloi twf tymor-hir, gwella safonau byw a mynd i’r afael â thlodi rhwng cenedlaethau yn ddibynnol ar allu pobl i gael mynediad at gyfleoedd i ddysgu yn eu cymunedau, ail-sgilio ac uwch-sgilio ar gyfer swyddi’r dyfodol a chael mynediad at ddysgu ar gyfer iechyd a llesiant. Mae’r llwybr at Gymru decach a mwy ffyniannus yn ddibynnol ar ariannu a chefnogi colegau i ddarparu’r cyfleoedd dysgu hyblyg sydd eu hangen ar oedolion yn ystod gwahanol gyfnodau yn eu bywydau.

I gyflawni’r genhadaeth hon, dylai llywodraeth nesaf Cymru, gan weithio gyda Medr:

  • Ymrwymo i gyflwyno hawl newydd i ddysgu gydol oes ar gyfer pob oedolyn yng Nghymru. Dylai hyn fod yn nod polisi tymor-hir sy’n dechrau gyda gwrthdroi toriadau i addysg i oedolion, cyflwyno llinellau cyllid newydd i alluogi colegau i ddarparu ailsgilio ac uwchsgilio cyflym a hyblyg ac sy’n galluogi unigolion gael mynediad at gronfa ddysgu bersonol, hyblyg y gallant ei defnyddio drwy gydol eu hoes.
     
  • Buddsoddi mewn cyflwyno Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol i gefnogi oedolion sydd ag ychydig iawn o gymwysterau i gael cydnabyddiaeth o’r sgiliau sydd ganddynt. Bydd hyn yn helpu dysgwyr gael llwybr carlam tuag at gyflawni cymwysterau cydnabyddedig a’u darparu â’r cyfle i gael swyddi sy’n gofyn am sgiliau uwch ac sydd â chyflogau uwch.
     
  • Cydnabod y cyfleoedd a’r heriau a ddaw gyda datblygiad AI drwy weithio gyda cholegau i sicrhau fod pob oedolyn â mynediad i’r dysgu sydd ei angen arnynt i ddeall hanfodion defnyddio AI. Dylai colegau gael eu hariannu a’u cefnogi gan Lywodraeth nesaf Cymru a Medr i fod yn ddarparwyr rheng flaen dysgu sylfaenol mewn deallusrwydd artiffisial, i fod yn rhan o’r llwybr i yrfaoedd mewn deallusrwydd artiffisial ac i gefnogi cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithluoedd.
     
  • Rhaid gwerthfawrogi Addysg Gymunedol i Oedolion am y gwaith y mae’n ei wneud i wella sgiliau, cryfhau cymunedau a chyfrannu at well iechyd a lles. Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru barhau i gydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn sgiliau sylfaenol oedolion fel rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol a gweithio gyda’r sector i greu partneriaethau dysgu oedolion cryfach sy’n sicrhau darpariaeth barhaol a chynaliadwy.
     
  • Cydnabod gwerth ac effaith teuluoedd yn dysgu gyda’i gilydd drwy gyflwyno Polisi Dysgu Teuluol newydd a chefnogi colegau i weithio gydag ysgolion i ddarparu cyfleoedd ar gyfer addysg oedolion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Darllenwch fwy am ein cenhadaethau eraill:

CENHADAETH 1 CENHADAETH 2
Tyfu’r economi drwy arfogi’r diwydiant a’r gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu’r heriau a ddaw o economi sy’n newid o ganlyniad i sero net a datblygiad Deallusrwydd Artiffisial (AI). Gwella diyniant, cyfranogiad a chanlyniadau mewn addysg ôl-16 drwy chwalu rhwystrau, helpu pobl ifanc wneud y penderfyniadau cywir ynghylch eu dyfodol a bod yn barod ar gyfer byd gwaith, a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. 

 

 



 

CENHADAETHAU A ATEGIR GAN SEFYDLOGRWYDD ARIANNOL

Ni ellir cyflawni’r tair cenhadaeth heb gydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â phwysau ariannol yn y sector a sicrhau fod gan golegau well sefydlogrwydd ariannol tymor-hir a hyblygrwydd gweithredol i fodloni anghenion eu cymunedau.

Lawrlwythwch fersiwn lawn   MANIFFESTO COLEGAUCYMRU

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.